Aros yn Chwilfrydig - hanfod bywyd creadigol
Ydych chi'n cael trafferth gyda phrosiect creadigol ar hyn o bryd?
Ydych chi wedi chwythu’ch plwc gyda’ch nofel, neu a yw eich ymdrechion creadigol wedi cael eu symud i gefn eich meddwl wrth i chi ganolbwyntio ar eich swydd bob dydd? A ydych chi dal yn gohirio dechrau’r dosbarth newydd hwnnw yr oeddech am ei gymryd? Ydych chi'n teimlo bod pob munud o'r diwrnod eisoes yn llawn a does dim lle i fod yn greadigol?
Stopiwch. Anadlwch. Nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Mae aros yn chwilfrydig am ein hunain yn greadigol yn mynd yn anoddach mewn byd sydd eisiau (ac yn gweiddi'n gyson am) ein sylw, yn rhoi'r ffocws ar gynhyrchiant ac nid proses, ac yn codi costau bod yn ddynol o hyd.
Sut gallwn ni ymgodymu â hyn? Rydw i wir yn credu mai chwilfrydedd yw'r ateb (heb ateb pendant) i bron popeth o ran creadigrwydd.
Ymunwch â mi am awr wedi'i neilltuo i chwilfrydedd. P'un a oes gennych brosiect mewn golwg sydd angen cicdaniad, neu’ch bod chi am feithrin mwy o greadigrwydd yn eich diwrnod, bydd y gweithdy chwareus ond â ffocws hwn yn helpu.
Gallwch ddisgwyl:
- Anogwyr dyddlyfr ar ffurf cwestiynau hyfforddi defnyddiol.
- Gweithgareddau creadigol â phwrpas - ysgrifennu, dwdlo, tynnu lluniau a symud.
- Gwreichion i gadw'ch chwilfrydedd yn fyw ac yn gweithio er eich lles chi.
- Rhywbeth i wneud i chi wenu.
- Amser i rannu a myfyrio ar gyfer y rhai sydd eisiau.
- Offer i’w cymryd a'u defnyddio bob dydd.
- Cefnogaeth ar ôl y gweithdy os oes ei angen arnoch.
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch wedi ailgysylltu â'ch prosiect presennol a bydd gennych offer/cynllun ar sut i aros yn chwilfrydig a gwneud amser ar gyfer mwy o greadigrwydd yn eich bywyd.
Cynhelir y gweithdy hwn fel man cyfrinachol, diogel a chynhwysol i bawb.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 10 cyfranogwr i greu ymdeimlad o gymuned a hwyluso amser ar gyfer rhannu.
Cynhelir pob gweithdy ar sail cyfraniad blwch rhoddion/gonestrwydd (cewch e-bost gyda dolen ar ôl y sesiwn). Os gallwch chi a’ch bod chi eisiau rhoi, gwych, os na, ni ofynnir unrhyw gwestiynau - rwy'n ddiolchgar am eich presenoldeb.
“Pan gyfeiriaf at “fyw’n greadigol,” rwy’n siarad yn ehangach. Rwy’n sôn am fyw bywyd sy’n cael ei yrru’n gryfach gan chwilfrydedd na chan ofn.”
— Elizabeth Gilbert