Arddangosfa yn agor am 14:00 ar y 12.10.25 | Yn parhau hyd at 24.12.25
Mae Plas Glyn y Weddw yn falch iawn o gyflwyno, ‘Y Gofod Rhwng…’, arddangosfa bwysig o waith newydd gan Deanne Doddington Mizen. Gan adeiladu ar ymchwil a ddechreuodd chwe mlynedd yn ôl gyda'i sioe unigol Pum Milltir o Adref, mae'r arddangosfa hon yn cynrychioli esblygiad sylweddol yn ei hymarfer.
Yn Five Miles from Home, gweithiodd yr artist gyda pigmentau naturiol a gasglwyd â llaw a'u prosesu o'r tir o fewn pellter cerdded i'w chartref ym Methesda. Gyda ‘Y Gofod Rhwng...’ mae hi'n symud y tu hwnt i beintio at arogl, sain, cyffyrddiad a cherflunwaith, gan greu profiad trochol, synhwyraidd sy'n gwahodd sgwrs am bŵer yr anweledig.
Mae'r arddangosfa'n archwilio'r daith rhwng eithafion: cywir ac anghywir, perthyn a cholled, galar a llawenydd. Yn aml, mae bywyd yn cael ei fyw yn y tir trothwyol hwn - niwlog ac aneglur, ond eto'n llawn posibilrwydd. Yn y mannau hyn o gyfaddawd a gwrthddywediad y mae newid, cynnydd ac adnewyddiad yn aml yn gwreiddio.
Archwiliad o amser, lle a'n perthynas fregus â'r byd naturiol sydd wrth wraidd gwaith Doddington Mizen. Mae hi'n cyferbynnu 'amser dynol' â dygnwch araf carreg, rhythmau pryfed, neu dwf coed, gan ofyn: beth mae perthyn a pherchnogaeth yn ei olygu pan gânt eu hystyried ar draws degawdau neu filoedd o flynyddoedd? Mae ei gwaith hefyd yn myfyrio ar gymhlethdod natur ddynol - ein gwrthddywediadau, ein tueddiadau dinistriol ac eto, ein gallu i fod yn dyner, yn wydn ac ailddyfeisio.
Mae tirwedd gogledd Cymru lle mae hi'n byw yn ymgorffori'r ddeuoliaeth yma. Mae'n ymddangos yn wyllt a heb ei gyffwrdd, gyda choedwigoedd, afonydd a mynyddoedd, ond mae hefyd yn ddiwydiannol iawn - wedi'i siapio a'i greithio gan ganrifoedd o ffermio, coedwigaeth a chwarelydda. Mae Doddington Mizen yn ymateb i'r hanes haenog hwn trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol megis gwlân, gwastraff llechi a resin pinwydd, sgil-gynhyrchion y diwydiannau hyn. Yn aml yn cael eu hystyried o werth isel neu yn cael eu taflu ymaith, yma mae'r deunyddiau hyn yn arwain y gwaith celf, gan gario pwysau stori'r tir wrth agor posibiliadau creadigol newydd.
Mae gweithio gyda deunyddiau naturiol o ffynonellau lleol wedi galw am broses greu arafach, un sy'n cyd-fynd â rhythmau'r tymhorau. Mae'r cyflymder bwriadol hwn yn caniatáu lle i fyfyrio ar barhâd, gwerth a hanfod celf ei hun: a yw'n cael ei ddal mewn bwriad, yn y llwybr a gymerwn, yntau yn y gwaith sy'n weddill?
Mae Deanne Doddington Mizen yn artist a cherflunydd ffigurol sydd wedi ei lleoli ym Methesda, gogledd Cymru. Yn dilyn cwblhau gradd Celf Gain yn 2006, mae Deanne wedi gweithio fel artist proffesiynol am fwy na deunaw mlynedd. Mae ei gwaith mewn casgliadau preifat ledled y DU ac yn ryngwladol, ac mae yn arddangos yn genedlaethol a thramor.
Manylion Pellach:
- Derbyniodd Deanne Doddington Mizen Wobr Creu gan Gyngor Celfyddydau Cymru
- Cefnogir gan Bangor Bio-Composites a Welsh Slate
- Bydd sgwrs gyhoeddus a gweithdy Artist 11yb-3yp, Sadwrn 8fed o Dachwedd. Bydd digwyddiadau a chyflwyniadau erill yn ystod yr arddangosfa. Gweler www.oriel.org.uk am fanylion