Heddiw mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor ffenest ymgeisio ar gyfer cyflwyno cais i’w Chronfa Ymsefydlogi ar gyfer Unigolion. Mae'r gronfa yn rhan bwysig o gefnogaeth gyffredinol y Cyngor i’r gymuned greadigol yn ystod coronafeirws.

Mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno cais i’r gronfa yn agor dydd Gwener 29 Mai ac yn cau am 5pm ar 15 Mehefin.

Mae'r Gronfa Ymsefydlogi i Unigolion yn cefnogi artistiaid hunan-gyflogedig ac ymarferwyr creadigol llawrydd sy'n gweithio yn y sector di-elw yng Nghymru. Ffocws arbennig y gronfa hon yw’r rhai hynny sy'n ceisio goroesi'r bygythiad i'w bywoliaeth oherwydd pandemig y coronafeirws. Bwriad yr arian yw helpu unigolion sy’n gweithio ym maes y celfyddydau i feithrin cadernid a chynnal ymarfer creadigol.

Mae'r gronfa ymsefydlogi yn un o dair elfen o gronfa Wytnwch y Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Sefydlwyd y gronfa gan Gyngor y Celfyddydau gyda Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys arian o'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan Dŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands. Gwerth y gronfa wytnwch i’r celfyddydau yn ei chrynswth yw £7.5 miliwn.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
 

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am roi'r cyfle gorau posib i artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol oroesi argyfwng coronafeirws ac ail ymsefydlogi. Ar hyn o bryd mae llawer gormod o bobl wrthi fel lladd nadroedd yn ddyddiol bron yn ymdrechu i oroesi a rhaid i ni wneud popeth posib i’w cynorthwyo i’w cynnal eu hunain yn ystod y misoedd nesaf. Bu ymateb Llywodraeth Cymru, a’r cyllid a ddaeth atom diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn wych. A bu croeso mawr i gyfraniadau Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands hefyd sydd wedi ein galluogi i gynyddu maint y gronfa sydd ar gael.

“Unigolion creadigol proffesiynol yw hanfod y diwydiannau creadigol a chelfyddydol. Ond heb waith ar hyn o bryd, a dim gobaith o waith yn y dyfodol agos, mae’r grŵp hwn yn dioddef yn enbyd, ac angen cymorth yn ddiymdroi."

 

Mwy o wybodaeth
 

  1. Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu a chefnogi celfyddydau Cymru.
     
  2. Mae cyfraniad Sefydliad Freelands o £0.5 miliwn yn rhan o’i ymrwymiad oherwydd coronafeirws o roi £3 miliwn i gronfeydd brys i artistiaid ac ymarferwyr creadigol llawrydd ledled Prydain. Sefydlwyd Sefydliad Freelands yn 2015 i annog y cyhoedd i ymgysylltu’n fwy â chelfyddydau Prydain a'u mwynhau. Am ragor o wybodaeth: www.freelandsfoundation.co.uk
  1. Mae’r gronfa ymsefydlogi i unigolion yn agor i geisiadau ar-lein ddydd Gwener 29 Mai 2020. Y dyddiad cau yw 5pm 15 Mehefin 2020.
     
  2. Mae'r gronfa ymsefydlogi i unigolion yn rhan o’r gronfa wytnwch i’r celfyddydau sy'n werth £7.5 miliwn ac a gyhoeddwyd ddechrau mis Ebrill.
     
  3. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, codir £30 miliwn yr wythnos ar draw y DU ar gyfer achosion da gan helpu cynorthwyo’r bregus yng nghymdeithas yn ystod yr amser gofidus hwn.