Ar 1 Ebrill 2025, penodwyd 8 aelod newydd i Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Yr aelodau newydd yw:

  • Ffion Haf Evans
  • Nan Williams
  • Wesley Bennett-Pearce
  • Dr Elid Morris
  • Sarah Pace
  • Joshua Robertson
  • Emily Bamkole
  • Amanda Morgan Thomas

Mae aelodau Cyngor y Celfyddydau yn gyfrifol am bennu nodau ac amcanion Cyngor Celfyddydau Cymru ac am sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru.

Mae eu rolau, sy'n rhai gwirfoddol a di-dâl, yn cynnwys sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol yn cael ei fuddsoddi'n effeithiol ledled Cymru i gefnogi'r celfyddydau.

Wrth groesawu'r aelodau newydd, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:  

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod 8 o aelodau newydd wedi'u penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd y broses recriwtio yn un drwyadl a bydd pob un o'r aelodau newydd a benodwyd yn dod â'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u harbenigedd eu hunain i'r Cyngor. Rwy'n falch o weld bod gennym gyngor cryf a fydd yn gallu cwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau."

Ychwanegodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: 

"Mae CCC yn falch iawn o groesawu wyth aelod newydd o'r cyngor ar yr adeg gyffrous hon i'r celfyddydau yng Nghymru. Rydyn ni'r dathlu'r cyfoeth o brofiad a'r holl ddoniau amrywiol y bydd CCC yn elwa arnyn nhw ac yn edrych ymlaen at ein taith gyda'n gilydd."

Bydd bywgraffiadau llawn ar gael ar safle'r Cyngor yn fuan.