Cyflwynodd National Theatre Wales (NTW) apêl yn erbyn penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) i roi’r gorau i ariannu NTW. Penderfyniad oedd hwn a wnaed fel rhan o Adolygiad Buddsoddi 2023 CCC.

Yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr, ac ar ôl gwrandawiad llawn yr apêl ar 29 Tachwedd, aeth y Cyngor ati’n fanwl i ystyried a thrafod adroddiad ac argymhellion y Panel Annibynnol a benodwyd i glywed yr apêl. Fel rhan o’r broses hon, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth ofalus i argymhellion y Panel ynghylch apêl NTW ac ynghylch yr Adolygiad Buddsoddi’n gyffredinol.

Mae ymateb manwl wedi’i anfon at NTW. Yn unol â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw drwy gydol yr Adolygiad Buddsoddi, ceir isod grynodeb o benderfyniad y Cyngor.  

Cyflwynodd NTW apêl fanwl iawn, a rhannwyd yr apêl hon â’r Panel ac â Swyddogion CCC yn unol â’n Proses Apelio sydd wedi’i chyhoeddi. Wrth ymateb, darparodd CCC gyflwyniad yr un mor fanwl, a hwnnw’n rhoi sylw’n uniongyrchol i’r holl bwyntiau a godwyd yn yr apêl. Rhannwyd y cyflwyniad hwn hefyd â NTW cyn y gwrandawiad. Yn ôl adroddiad y Panel, wrth iddo bwyso a mesur, ni fu’n bosibl rhoi sylw i bob elfen mewn apêl a ddisgrifiwyd ganddo fel un ‘fanwl a chymhleth’. Gan hynny, roedd ei adroddiad yn canolbwyntio ar yr hyn a ddisgrifiodd fel ‘ffactorau ar lefel gymharol uchel’.

Yn unol â pharagraff 7.3 o’n Proses Apelio sydd wedi’i cyhoeddi, gwnaeth y Panel, y mae ei rôl yn gynghorol (ac nad oes ganddo’r grym i wneud ei benderfyniad ei hun a fyddai’n disodli’r penderfyniad gwreiddiol ynghylch cais NTW am gyllid), argymhelliad i Gadeirydd y Cyngor oedd y dylid ailystyried cais NTW am gyllid yn unol â’r rhesymau a roddodd dros ei argymhelliad. 

Hefyd, yn unol â gofynion y Broses Apelio, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth briodol i’r materion a godwyd gan y Panel yn ei adroddiad, ynghyd ag ystyried gwybodaeth berthnasol arall, fel Canllawiau Adolygiad Buddsoddi CCC, a ddisgrifiwyd gan y Panel fel ‘dogfen ragorol’. Cytunodd y Cyngor yn unfrydol nad oedd unrhyw ffactorau perthnasol i warantu adolygu ac ailasesu’r cais. Penderfynodd felly lynu wrth ei benderfyniad gwreiddiol i beidio â chynnig cyllid aml-flwyddyn i NTW yn Adolygiad Buddsoddi 2023. Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhoddodd y Cyngor gryn bwyslais ar Ganllawiau’r Adolygiad Buddsoddi, ac ar y ffaith bod y broses asesu a ddisgrifiwyd wedi’i dilyn yn llawn. Mae ein hymateb manwl i NTW yn cyflwyno rhesymau penodol y Cyngor dros y penderfyniad hwn.

Dyna gwblhau ein Proses Apelio.