Dewch i gefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau.
Rydyn ni’n gwahodd cyflogwyr i gymryd rhan yn ein hymgyrch drwy rannu negeseuon cefnogol ac ysbrydoledig i ddangos i bobl ifanc werth eu sgiliau, eu hagwedd a’u dewisiadau – beth bynnag fo’u graddau.
Themâu Allweddol
- Nid Graddau sy’n Eich Diffinio – ond Sgiliau
- Mae Mwy nag Un Llwybr at Lwyddiant (e.e. prentisiaethau, interniaethau)
- Mae Agwedd yn Bwysicach na Graddau i Gyflogwyr
- Cefnogaeth ar Ddiwrnod Canlyniadau – Dydych Chi Ddim ar Eich Pen Eich Hun
Camau Nesaf – Anfonwch Eich Cyfraniad!
Gallwch ymateb i unrhyw un o’r themâu trwy:
- Neges ysgrifenedig drwy’r ffurflen MS: Results Day Campaign – Employer Messages
- Fideo 30-eiliad (portread, wyneb i’r camera), drwy WhatsApp i: 07837 340205
I hyrwyddo cyfleoedd go iawn i bobl ifanc, anfonwch eich cyfleoedd gwaith neu raglenni at cardiffcommitment@cardiff.gov.uk, gyda’r pwnc ‘WHATS NEXT OPPORTUNITIES’, gan gynnwys:
- Dolen i’r cyfle
- Logo’r cwmni
- Dyddiad cau
- Meini prawf cymhwysedd (e.e. 18+)