Mae artistiaid a fydd yn cael arian eleni yn gweithio yn y meysydd yma:
•    cerddoriaeth
•    theatr
•    y celfyddydau cyfun
•    y celfyddydau gweledol
•    dawns
•    opera
•    llenyddiaeth
•    cylchgronau
•    technoleg
•    gwaith i gynulleidfaoedd ifanc 
•    lleoliadau gwledig

Rhaid i’r prosiectau gael eu harwain gan bobl anabl a dangos ansawdd, arloesedd ac uchelgais i ddatblygu gwaith newydd. Mae artistiaid sy'n cael arian yn byw yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Prif nod Heb Ffiniau yw comisiynu artistiaid a chwmnïau anabl i greu gwaith eithriadol. Yn y rownd yma ymgeisiodd 468 artist a chyrhaeddodd 77 y rhestr fer.

Ystadegau’r grantiau:
●    34 grant gydag 17 ohonynt yn cydweithio â phartneriaid
●    11 grant Dod i'r Amlwg, 13 grant Ymchwil a Datblygu, 8 grant Prif Gomisiwn a 2 Gomisiwn Strategol
●    Gwerth £717,490 wedi’i roi mewn grantiau
●    67% o’r artistiaid heb gael arian Heb Ffiniau o'r blaen
●    32% o'r grantiau’n mynd i artistiaid lliw
●    10% o'r arian yn mynd i artistiaid Cymru, 9% i rai’r Alban, 24% Canolbarth Lloegr, 21% Llundain, 18% De Orllewin Lloegr, 12% Gogledd Lloegr, 6% De Ddwyrain Lloegr 
●    46% o'r arian yn mynd i'r celfyddydau cyfunol, 15% i’r theatr, 11% i'r celfyddydau gweledol, 7% i lenyddiaeth, 5% i gerddoriaeth, 3% i ddawns, 13% i gelfyddyd arall (gan gynnwys theatr gerddorol, celfyddyd sain amgylcheddol) 

Un o amcanion Heb Ffiniau yw sefydlu artistiaid anabl yn y sector diwylliannol drwy ein partneriaethau. Ariennir Heb Ffiniau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Alban Greadigol. Ein partneriaid yn y rownd yma yw Artsadmin, Sefydliad Bagri, Ymddiriedolaeth Dinas Diwylliant Cofentri, Farnham Maltings, Amgueddfa'r Cartref, Sage Gateshead, Canolfan Southbank, Pentabus, Theatr Polka, The Art House/Y Tŷ Celf a Chasgliad Wellcome. Hefyd roedd partneriaeth gyda bwrsariaeth David Toole OBE  ar gyfer dawnsiwr sy'n datblygu a gafodd Laura Fisher. 

Mae’r holl gomisiynau ar wefan Heb Ffiniau.
 
Meddai Jo Verrent, Uwch Gynhyrchydd Heb Ffiniau: "Mae'n bwysig pan fydd llawer o artistiaid a chwmnïau wedi cael eu hatal rhag teithio a rhannu gwaith, i barhau i gomisiynu artistiaid, hyd yn oed os nad ydym ni’n siŵr pa ddyfodol fydd i’r sector pan fydd y gwaith yn barod. Rydym ni wedi gwneud ein rhan. Nawr mater i’r sector yw helpu i gefnogi a datblygu'r artistiaid a'u syniadau a’r rhai ar y rhestr fer. Mae gwaith gwych yn barod i’w brofi."

Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae’r rhaglen wrth wraidd ein gwaith yng Nghymru. Mae’n darparu cefnogaeth bwrpasol i artistiaid anabl a chodi eu proffil a rhoi sylw i'r ystod fawr o waith cyffrous. Rydym ni wrth ein bodd i fod yn rhan o'r rhaglen lwyddiannus. Gwelsom effaith gynyddol y rhaglen ar artistiaid anabl yng Nghymru. Mae'n chwarae rhan bwysig i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws y sector."

Dyma’r rhai sy'n cael grantiau yn 2021: 

Prif grantiau
●    Cheryl Beer, Cymru, Artist Sain Amgylcheddol
●    Christopher Samuel, Canolbarth Lloegr, y Celfyddydau Gweledol, Grant Partner Casgliad Wellcome 
●    Dolly Sen, De Ddwyrain Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Casgliad Wellcome
●    Jack Dean a Chwmni, De Orllewin Lloegr, Cerddoriaeth, Grant Partner Farnham Maltings
●    Mish Weaver, De Orllewin Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Artsadmin
●    Mind the Gap a Nickie Miles-Wildin, Gogledd Lloegr, Theatr
●    Rachael Young, Canolbarth Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol
●    Tom Wentworth, Llundain, Theatr, Grant Partner Pentabus 

Grantiau Ymchwil a Datblygu
●    Gareth Churchill, Cymru, Cerddoriaeth
●    Aby Watson, Yr Alban, Dawns
●    Ailís Ní Ríain, Gogledd Lloegr, Cerddoriaeth, Grant Partner Sage Gateshead
●    Bobby Baker, Daily Life Cyf, Llundain, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Amgueddfa'r Cartref
●    Clara Weale, Yr Alban, y Celfyddydau Cyfunol
●    Ellen Renton, Yr Alban, Llenyddiaeth
●    Estabrak, Llundain, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Sylfaen Bagri
●    John Kelly, Llundain, Cerddoriaeth, Grant Partner Sage Gateshead
●    Joseph Wilk, De Orllewin Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Canolfan Southbank
●    Lilac Yosiphon, Llundain, Theatr, Grant Partner Theatr Polka
●    Rhine Bernardino, Llundain, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Sylfaen Bagri
●    Touretteshero, Llundain, Theatr
●    Vijay Patel, Llundain, Theatr

Comisiynau Artistiaid sy'n Dod i'r Amlwg:
●    Stephanie Back, Cymru, Theatr
●    Ayesha Jones, Canolbarth Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner Cofentri 2021
●    Clare a Lesley, Artistiaid Dawns Anabl, Yr Alban, y Celfyddydau Cyfunol
●    Emily Beaney, Yr Alban, y Celfyddydau Cyfunol
●    Hayley Williams-Hindle, Canolbarth Lloegr, y Celfyddydau Gweledol, Grant Partner Cofentri 2021
●    Jack Foulks, Canolbarth Lloegr, y Celfyddydau Gweledol, Grant Partner Cofentri 2021
●    Jameisha Prescod, Llundain, y Celfyddydau Gweledol
●    Laura Fisher, Yr Alban, Dawns
●    Lilith Cooper, Yr Alban, y Celfyddydau Cyfunol
●    Mohammed Hassun Zafar, Gogledd Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol, Grant Partner y Tŷ Celf
●    Sam Metz, Gogledd Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol

Comisiynau strategol
●    Al Davison, Canolbarth Lloegr, y Celfyddydau Gweledol, gydag Ymddiriedolaeth Dinas Diwylliant Cofentri 
●    Raquel Meseguer Zafe, De Orllewin Lloegr, y Celfyddydau Cyfunol gydag Ymddiriedolaeth Dinas Diwylliant Cofentri