Wrth i Tŷ Pawb fynd trwy ein 8fed flwyddyn ers agor, mae gennym y cyfle i ailddychmygu ein mannau, ac ymateb i anghenion esblygol ein cynulleidfaoedd a’r cyd-destun lleol.
Gyda hyn mewn golwg, rydym yn y broses o agor ein neuadd farchnad, gan gael gwared ar 3 stondin farchnad barhaol, er mwyn creu lle hyblyg newydd a all ddarparu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ar wahanol adegau:
- Marchnadoedd arbenigol a dros dro
- Seddau ardal fwyd ychwanegol
- Lle chwareus a diddorol i blant a’u hoedolion
Fel rhan o ddod â’r lle newydd hwn yn fyw, rydym yn cynnig dau gyfle comisiwn dylunio.
Mae’r cyfleoedd comisiwn gwaith adeiladu a dylunio wedi bod yn bosibl diolch i £42,000 a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.
Cyfle Comisiwn Dylunio 1: Cit Chwarae – £10,000
Cyfle Comisiwn Dylunio 2: Byrddau a Seddau - £14,250
Noder:
- Y dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb yw hanner nos ar 26 Medi 2025.
- Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr am ganlyniad y mynegiadau o ddiddordeb erbyn dydd Mawrth 30 Medi
- Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyfweliadau a fydd yn digwydd ar-lein ddydd Gwener 3 Hydref.
Dyddiad cau: 26/09/2025