Mae NEMO (Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop) yn rhaglen beilot ar gyfer symudedd a chyfnewid artistig, a gefnogir gan Nordic Culture Fund ac asiantaethau ariannu celfyddydau Iwerddon, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Nod y rhaglen yw meithrin cydweithio rhyngwladol, cryfhau rhwydweithiau artistig ar draws y rhanbarth a chefnogi mwy o artistiaid a gweithwyr proffesiynol celfyddydol i ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol.
Mae'r alwad yn canolbwyntio ar artistiaid unigol ac ymarferwyr celfyddydol yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd, gan adlewyrchu cydnabyddiaeth gyffredin ymhlith y partneriaid bod gan y grŵp hwn angen penofol am gwfnogaeth a chyfleoedd ychwalegol yr yr hinsawdd bresennol.
Mae artistiaid ac ymarferwyr celfyddydau sydd wedi’u lleoli yn y gwledydd Nordig (Denmarc, Ynysoedd Ffaro, y Ffindir, yr Ynys Las, Gwald yr Iâ, Norwy, Sweden, ac Ynysoedd Aland), yn ogystal â’r rhai yn y DU (Lloegr, Gwledydd Iwerddon, yr Alban, a Chymru) ac Iwerddon, yn gymwys i wneud cais.
Gall artistiaid ac ymarferwyr celfyddydau yn y gwledydd Nordig wneud cais i ddatblygu partneriaeth neu gydweithrediad (e.e. gydag unigolion, grwpiau, neu sefydliadau) yn un o’r pum gwlad sy’n ffurfio’r DU ac Iweddon – ac i'r gwrthwyneb. Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r cais fod wedi cytuno’n glit ar strwythur a chynnwys y bartneriaeth cyn cyflwyno’r cais.
Mae cyfanswm cyllideb yr alwad yn mynd i alluogi hyd at 30 o grantiau hyd ar 75,000 DKK. Gan mai swm cyfyngedig yw hwn, mae’r trefnwyr yn disgwyl i geisiadau ganolbwyntio ar gamau cynnar partneriaeth a chydweithio. Er enghraifft:
Teithio ar gyfer datblygu partneriaeth a/neu ymwchwil a datblygu yn hytrach na chostau cyd-gynhyrchu
Cyfnewid gwybodaeth, gallu a phrofiad
Mentoriaethau e.e. cyfnewid dulliau gweithio, traddodiadau, prosesau
Adeiladu capasiti e.e. cryfnahu sgiliau, adnoddau, strwythurau (er mwyn gweithio’n rhyngwladol)
Creu/dylunio cynllun peilot ar raddfa fach ar gyfer cyfweithrediad yn y dyfodol
Gall ceisiadau fod ar gyfer gweitharedd corfforol, digidol neu hybrid mewn ymateb i amcanion y rhaglen. Dylai gwariant fod ar deithio, llety a lwfansau am amser a dreulir.
Dyddiad cau: 15 Medi 2025