Mae Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn falch o wahodd sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru (orielau, sefydliadau sy’n comisiynu a chyflwyno) i wneud cais i fod yn rhan o'r rhaglen 2 flynedd unigryw yma.
Bydd y cyfle yn cefnogi saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol i weithio mewn partneriaeth â saith amgueddfa unigol Amgueddfa Cymru ar draws Cymru.
Bydd grant o £60,000 yn cael ei gynnig i'r sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd o fis Ebrill 2023 ymlaen.
Pwrpas y gronfa yw:
- Datblygu straeon a ffyrdd o gydweithio'n greadigol sy'n darparu hanes cytbwys, dilys a datgoloneiddiedig o Gymru ac adlewyrchiad o Gymru heddiw
- Ymyriadau a phrofiadau creadigol newydd y bydd y cyhoedd yn eu mwynhau ac a fydd yn eu herio
- Arian a chyfleoedd i weithio a chael profiad ym maes treftadaeth a'r celfyddydau gweledol i weithwyr proffesiynol creadigol o gefndir diwylliannol ac ethnig amrywiol
- Adlewyrchu a chydnabod safbwyntiau, profiadau a straeon cymunedau diwylliannol ac ethnig amrywiol, ddoe a heddiw
- Gwneud lle ac amser i newid fel bod artistiaid, sefydliadau a chymunedau yn gallu siarad â'i gilydd a chynnig syniadau a ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd
- Dymchwel rhwystrau a newid diwylliannau sydd ar hyn o bryd yn atal:
-creu gwaith
-mynediad at weithiau celf, casgliadau a lleoedd arddangos
-grymuso cymunedau
- Gwnewch yn siŵr fod y gwersi a ddysgir ynghyd â'r ffyrdd newydd o weithio’n dod yn ymarfer da i sefydliadau weithio'n fwy creadigol gan gydweithio ag unigolion a chymunedau
- Dywedwch wrth sector ehangach y celfyddydau a threftadaeth am y gwersi a ddysgir fel y gallant hwythau gymryd rhan yn y sgwrs a gweithredu’n ôl y casgliadau
Yn agor 1 Mawrth 2023.
Yn cau 5pm 8 Mawrth 2023.