Ysgoloriaeth PhD Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC a Ariennir yn Llawn: Y Celfyddydau, Gweithrediaeth a Hygyrchedd: Celfyddydau Anabledd yng Nghymru, 1980 Hyd Heddiw
Dyddiad cau: 13 Mai 2024
Cyfle PhD wedi’i ariannu’n llawn i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynorthwyo Celfyddydau Anabledd Cymru i gadw ac ehangu mynediad i’w archif, ac i gydweithio ag artistiaid ac actifyddion i ddod â stori celfyddydau anabledd yng Nghymru yn fyw i gynulleidfaoedd newydd. Wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Darparwyr cyllid: Cynllun Partneriaethau Doethurol Cydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
Meysydd pwnc: Hanes
Dyddiad Dechrau'r Prosiect:
-
1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi)
Goruchwylwyr:
-
Yr Athro David M. Turner (d.m.turner@abertawe.ac.uk) a Dr Ryan Sweet (Prifysgol Abertawe)
-
Ms Manon Foster-Evans a Mrs Lorena Troughton (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Hanes
Dull astudio: Mae'n bosib astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser.
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyhoeddi y bydd ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol gydweithredol a ariennir yn llawn ar gael o fis Hydref 2024 dan Gynllun Partneriaethau Doethurol Cydweithredol yr AHRC.
Ers y 1980au, mae'r celfyddydau a diwylliant wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fynegi hunaniaethau pobl fyddar a phobl anabl ym Mhrydain ac maent wedi cynnal ymgyrchu ynghylch anableddau. Eto, mae prinder hanesion celfyddydau i bobl anabl, yn enwedig yng Nghymru. Mae'r pwnc PhD hwn yn archwilio sut mae bywydau diwylliannol pobl fyddar ac anabl yng Nghymru wedi newid dros y 40 mlynedd diwethaf. Bydd yn dadansoddi rôl newidiol celfyddydau i bobl anabl (gan gynnwys celfyddydau gweledol, y theatr, dawns a ffilmiau) wrth gyfrannu at drefn gymdeithasol pobl fyddar ac anabl yn ystod y cyfnod hwn, ac yn gofyn beth mae gwaith creadigol pobl fyddar ac anabl yn ei ddweud wrthym am ystyr bod yn anabl yng Nghymru. Sefydlwyd y corff Celfyddydau ar gyfer Pobl Anabl yng Nghymru (sydd bellach yn Gelfyddydau Anabledd Cymru) ym 1982 a chan ei fod yn un o'r sefydliadau amlgyfrwng hynaf yn y DU o ran celfyddydau i bobl anabl, mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad celfyddydau ac ymgyrchu i bobl anabl. Mae'r PhD hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynorthwyo Celfyddydau Anabledd Cymru wrth gadw ac ehangu mynediad at archif y corff a chydweithredu ag artistiaid ac ymgyrchwyr i ddod â stori celfyddydau i bobl anabl yng Nghymru'n fyw i gynulleidfaoedd newydd.
Bydd y myfyriwr yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen digwyddiadau datblygu carfan y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol a gweithgareddau eraill a drefnir ar gyfer myfyrwyr y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol gan yr AHRC, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad a ddarperir gan Brifysgol Abertawe a Chonsortiwm Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol Diwylliant a Threftadaeth Cymru.
Cymhwyster
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig ar lefel 2:1 ac yn ddelfrydol dylent feddu ar gymhwyster lefel meistr perthnasol, neu ddisgwyl derbyn cymhwyster o'r fath, a/neu allu dangos profiad cyfwerth mewn lleoliad proffesiynol. Mae disgyblaethau addas yn hyblyg, ond gallent gynnwys Hanes, Astudiaethau Anabledd, Astudiaethau Diwylliannol ac Amgueddfeydd, Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, y Cyfryngau, Hanes Celf. Mae gallu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) yn ddymunol ond nid yw'n ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil hon. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth (h.y. myfyriwr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU), ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein cymhariaeth o ofynion mynediad (gweler cymwysterau gwledydd penodol). Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg.
Rydym am annog yr amrywiaeth ehangaf o fyfyrwyr posib i astudio am ysgoloriaeth ymchwil y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol ac yn ymrwymedig i groesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o gefndiroedd gwahanol.
Yr Iaith Saesneg: Sgôr IELTS gyffredinol o 6.5 (heb unrhyw elfen unigol yn is na 6.5) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau.
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon ar agor i ymgeiswyr o unrhyw genedligrwydd.
Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu holl gostau ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol gwerth £19,237 ynghyd ag ariantal uwch gwerth £600 y flwyddyn.
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.