Os ydych chi'n... 

  • 16-18 oed 

  • cerddor uchelgeisiol 

  • eisiau datblygu eich crefft a gwneud marc eich hun ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg 

     

Ein prosiect Cerdd y Dyfodol yw'r peth i chi felly, ac yn well fyth, mae ceisiadau ar gyfer ein galwad agored gyntaf erioed bellach ar agor. 

Mae Cerdd y Dyfodol yn brosiect cerddoriaeth gyfoes a chyfle datblygu rhad ac am ddim ar gyfer creawdwyr cerdd Cymru'r dyfodol. Mae’n galluogi pobl ifanc 16-18 oed i dyfu i fod yr artistiaid y maent eisiau bod ac mae’n eu cefnogi i wneud eu marc ar y sîn gerddoriaeth gyfoes yma yng Nghymru ar draws ystod eang o genres - o Grime i Indie, Electronica i RnB. 

Gweithio gyda'n mentoriaid proffesiynol, gydag enwau blaenorol fel Mace the Great, Heledd Watkins a DJ Dabes, mae’r prosiect yn cynnig profiad go iawn o’r diwydiant a chipolwg o fywyd gwaith cerddor. Bydd y prosiect yn mynd â chyfranogwyr drwy'r cylch bywyd cerddoriaeth lawn, o ysgrifennu a recordio, i hyrwyddo a pherfformio, dan arweiniad y cerddorion proffesiynol gorau sydd gan Gymru i'w cynnig.   

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar dri chyfnod allweddol – cyfres o sesiynau mentora ar gyfer pob cyfranogwr gyda cherddor/artist Cymraeg yn gweithredu fel mentor yng Nghaerdydd yn ystod mis Chwefror, cyfnod preswyl tridiau ym Mae Caerdydd ym mis Mawrth ac yna perfformiad byw mewn lleoliad cerddoriaeth eiconig Cymraeg yn ystod mis Ebrill, gyda lleoliadau blaenorol yn cynnwys Clwb Ifor Bach. 

Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cais, ewch i'n gwefan. 

Mae Cerdd y Dyfodol wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.

 

Dyddiad cau: 02/01/2024