‘Rydym yn edrych am ymarferydd creadigol sydd â phrofiad o ddyfeisio a chyflwyno gweithgaredd ymgysylltu o fewn y celfyddydau gweledol cyfoes. Byddwch yn hyderus wrth reoli prosiect ac yn cefnogi Rheolwr y Celfyddydau Gweledol i ddyfeisio strategaeth ymgysylltu ymarferol ar gyfer rhaglen y celfyddydau gweledol cyfoes. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddog Dysgu NCAGW, yn ogystal a swyddogion ymgysylltu eraill sy'n bodoli ar draws rhwydwaith partneriaid NCAGW gyda'r bwriad o adnabod cyfleoedd o gydweithio.
Dyddiad cau Dydd Gwener 9fed Chwefror
I gyflwyno cais anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol un-dudalen atom yn nodi paham yr hoffech ymgymryd â’r gwaith hwn a’r profiad sy’n eich gwneud yn ymgeisydd llawrydd addas.
Anfonwch i David Wilson daw81@aber.ac.uk