Mae Citrus Arts, corff syrcas a’r celfyddydau awyr agored ym Mhontypridd yng nghymoedd De Cymru, yn chwilio am ymddiredolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd bychan ond grymus.

Pwy yw Citrus?

Elusen yn y celfyddydau ydym, a chennym weledigaeth o gymuned greadigol â’i gwreiddiau yn ethos y syrcas deithiol

Cenhadaeth Citrus yw defnyddio medrau ymarferol bywyd y syrcas a’r celfyddydau awyr agored i feithrin dinasyddiaeth dda a charedigrwydd yn ein cymdogaeth, ac i danio creadigedd, gyda chysylltu ein cymuned â ni’n hunain, â’n gilydd ac â’r tir drwy lywyddu profiadau trawiadol ar y cyd.

Beth wnawn ni?

Hyfforddiant tâl mewn medrau technegol yn y celfyddydau awyr agored i bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (y cyllun Cywion Celf) gweler ffilm fer

Mewnosodion celfyddydau awyr agored a syrcas gyda’n cymuned ac ynddi  TY UNNOS

Dosbarthiadau syrcas i blant ac oedolion yn ein canolfan yn Neuadd Trehopcyn

Rage Rage | Oes Oes sef rhaglen ddiwylliannol wrthryfelgar i bobl adawodd yr ysgol cyn 1990

Digwyddiadau cymunedol creadigol e.e. sgriniadau NT Live, gigs, perfformiadau a diwrnodiau cymuned

Am bwy rydym yn chwilio?

Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n bwrdd a rhoi help llaw i ni yrru’r cwmni, gydag ymorol ein bod yn dal i fod yn gyfrifol ac yn gweithio’n benderfynol ac yn ddawnus ym mhopeth wnawn ni.

Mae gennym ddiddordeb yn arbennig mewn clywed gan bobl sy’n byw yn Nhrehopcyn neu’r cyffiniau, sy’n medru’r Gymraeg a/ neu sy’n teimlo bod profiad eu bywyd heb ei gynrychioli ddigon yn y celfyddydau neu ar fyrddau elusennau.  Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan bobl a chanddyn nhw brofiad ym meysydd cynaliadwyedd yr amgylchedd, diogelu, marchnata neu feithrin perthynas, rheoli staff, diogelu data a/ neu reoli oedfannau. Fodd bynnag, y peth pwysicaf yw bod gennych ddiddordeb yn y celfyddydau ac awch a brwdfrydedd dros helpu ein cymuned a’n pobl ifanc i goleddu creadigedd, dinasyddiaeth a charedigrwydd.

Rhywun sy’n gofalu am waith elusen yw ymddiredolwr, yn ymorol ei bod yn cwrdd â’i hamcanion elusennol ac yn gwneud popeth a wna mewn modd cyfreithlon a phroffesiynol. Mae ymddiredolwyr yn cwrdd bob ychydig fisoedd i fwrw golwg ar waith yr elusen, ei gynllunio a’i drafod. Chaiff ymddiredolwyr mo’u talu am fod yn ymddiredolwyr, ond maent yn cael treuliau i ymorol am deithio etc.

Cynhelir cyfarfodydd o fwrdd Citrus tua phedair gwaith y flwyddyn, fel arfer ar Zoom, ac mae yna ddigwyddiadau creadigol eraill gan Citrus rydym wrth ein boddau o weld ein hymddiredolwyr yn mynd iddynt lle bo modd. Gallai’r rhain gynnwys gigs, perfformiadau, gŵyl, gweithdai a llawer at hynny. Mae’n amcan gennym gefnogi ein bwrdd o ran anghenion hyfforddiant a datblygu yn ogystal â chyfleoedd cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae gan Citrus Arts bedwar ymddiredolwr ac rydym yn chwilio am dri neu bedwar eto.

I wneud cais, anfonwch gais atom ym mha fformat bynnag y mynnwch chi. Gewch chi anfon CV, os oes gennych un, gyda llythyr eglurhaol, a ffeil sain neu fideo. Gewch chi wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.Ar hyn o bryd mae’r cyfarfodydd o’n bwrdd ar fynd yn Saesneg gyda pheth Cymraeg ac rydym yn awyddus iawn i glywed siarad mwy o Gymraeg. Byddem hefyd yn falch o gefnogi dehongli cyfarfodydd yn Iaith Arwyddion Prydain os oes gofyn.

Os carech gael sgwrs anffurfiol â rhywun sydd ar ein bwrdd ar hyn o bryd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Gweithredol, Beth, i drefnu: beth@citrusarts.co.uk

Dyddiad cau ceisiadau: 31 Gorffennaf 2025 5pm
 

Dyddiad cau: 31/07/2025