Ydych chi'n angerddol am ddod â chelf i bawb? Ydych chi’n credu yng ngrym y cyfrwng digidol i ymgysylltu pobl â’r celfyddydau? Rydym yn chwilio am Ymchwilydd Serameg brwdfrydig i ymuno â’n tîm cyfeillgar ac ymroddedig.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig unigolion sy’n profi rhwystrau corfforol, meddyliol neu gymdeithasol i gael mynediad i’r celfyddydau.
Elusen addysg gelf yw Art UK sy’n ceisio gwneud y gelfyddyd yng nghasgliadau cyhoeddus y DU yn hygyrch i bawb – er mwynhad, dysgu ac ymchwil. Mae’n galluogi cynulleidfa fyd-eang o bum miliwn o bobl y flwyddyn i ddysgu am gasgliad celf cenedlaethol y DU drwy ddigideiddio gweithiau celf ac adrodd y straeon y tu ôl i’r celf. Yn ogystal ag offer ymgysylltu arloesol fel Tagger a Curations, mae Art UK ar hyn o bryd yn gweithio ar fentrau newydd gan gynnwys rhaglen ddysgu fawr, gan wneud hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â'r sefydliad.
Mae’r rhaglen Cwmpasu Digido Serameg yn brosiect 12 mis, a ariennir gan The Headley Trust, i archwilio ychwanegu casgliadau serameg at lwyfan Art UK ac adrodd stori serameg yng nghasgliadau’r DU. Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut y gall Art UK fod yn gyfrwng i bobl ledled y byd ddod o hyd i serameg o gasgliadau’r DU a’i harchwilio.
Fel yr Ymchwilydd Serameg, bydd gennych wybodaeth gyfredol am hanes serameg, a mathau, ffurfiau a therminoleg serameg. Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl ac yn gyfathrebwr da. Byddwch yn drefnus, yn benderfynol, ac yn llawn menter. Bydd gennych ddiddordeb mewn casgliadau celf a threftadaeth, a byddwch yn gyffrous am weithio mewn sefydliad digidol sy’n trawsnewid mynediad i gelfyddyd y genedl.
- Pedwar diwrnod yr wythnos, 0.8 CALl
- Cytundeb cyfnod penodol am 12 mis
- Cyflog £28,000 y flwyddyn (pro rata)
- Gweithio o bell, unrhyw le yn y DU
I weld y disgrifiad swydd llawn ewch i'r dudalen swyddi ar ein gwefan.