#AgorAllan24
Oes gennych chi syniad am berfformiad celfyddydau awyr agored?
Bydd Articulture a phartneriaid Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i gynnig tri chomisiwn newydd i artistiaid yng Nghymru sy’n awyddus i greu celfyddydau awyr agored a mynd â nhw ar daith.
Bydd o leiaf un o’r tri chomisiwn yn cael ei roi i artist sy’n ystyried ei hun yn Fyddar, anabl ac/neu’n niwrowahanol.
Os oes gennych syniad a’ch bod yn ystyried gwneud cais am gomisiwn neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Articulture i ddweud helô.
Mae Articulture yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’ch cefndir neu’ch profiad.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw hanner dydd, ddydd Gwener 2 Chwefror.
Dyddiad cau: 02/02/2024