Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cynllun peilot er mwyn cynorthwyo gweithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau i fanteisio ar ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu bwrsariaethau i 20 o weithwyr llawrydd y celfyddydau perfformio fynychu cyrsiau ar-lein Iaith Gwaith gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn hybu hyder iaith Gymraeg yn y sector. Yn dilyn galw mawr, mae’r llefydd bellach wedi’u llenwi ond mae croeso i chi gysylltu â thîm Theatr Gen i ychwanegu’ch enw i’r rhestr aros: nia.skyrme@theatr.com

Gan siarad heddiw, dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol  Theatr Genedlaethol Cymru:

“Ry’n ni’n awyddus fel cwmni i gynnig cefnogaeth i weithwyr llawrydd y celfyddydau perfformio hybu hyder wrth weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan wnaethom ni wahodd gweithwyr llaw-rydd i wneud cais am le ar gwrs Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol roeddem ni wrth ein bodd i dderbyn ymateb mor frwd! Roeddem ni wedi gweithio ar sail deuddeg o lefydd, ond bu’r galw’n tipyn uwch na hynny. Rydym wedi penderfynu felly – gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru – gynnig llefydd i hyd at ugain o weithwyr llawrydd i hybu eu sgiliau iaith.”

Gan siarad heddiw, dywedodd Sian Tomos, Cyfarwyddwr (Datblygu’r Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r ymateb i alwad Theatr Genedlaethol Cymru yn hynod galonogol ac yn dangos maint y galw ymhlith gweithwyr llawrydd am gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r Gymraeg yn faes gweithgarwch sydd yn ganolog i waith y Cyngor ac un o flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y blynyddoedd i ddod, fel yr amlinellwyd gennym yn ein dogfen drafod ddiweddar, Ail-osod y Llwyfan.

“Gobeithiwn y bydd cefnogi’r cynllun hwn gan y Theatr Genedlaethol yn fodd nid yn unig i ni feithrin medrau yn y Gymraeg o fewn y sector gelfyddydol, ond yn ffordd hefyd i ni gefnogi gweithwyr llawrydd sydd wedi cael amser mor echrydus o anodd dros y misoedd diwethaf”.

Pwrpas y cynllun peilot hwn yw cefnogi gweithwyr theatr llawrydd i hybu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith trwy gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cael ei ddarparu’n rithiol gan Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Theatr Genedlaethol Cymru.

DIWEDD         5 Ionawr 2021