Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am Dechnegydd Sain i ymuno â'n tîm technegol ar gyfer cynhyrchiad Beauty and the Beast, sy'n cael ei gynnal rhwng 12 a 29 Rhagfyr 2024 yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Eleni bydd y pantomeim yn cael ei gynhyrchu’n fewnol yn Theatr y Lyric, mewn trefniant â chynhyrchwyr pantomeim profiadol, Imagine Theatre Ltd. Bydd y tîm cynhyrchu yn cynnwys cymysgedd o staff cynhyrchu/technegol mewnol a staff llawrydd.

Mae'r rôl hon yn cefnogi Rheolwr Llwyfan y Cwmni i sicrhau bod pob perfformiad yn mynd yn hwylus ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau llwyddiant pob perfformiad. Mae hwn yn gontract cyfnod penodol ar gyfer gwasanaethau, sy'n mynnu'ch bod yn hunangyflogedig.

I wneud cais, anfonwch CV a naill ai lythyr eglurhaol, fideo, neu ffeil sain yn mynegi eich diddordeb yn y gwaith at lyricpanto@gmail.com

Dyddiad cau: Dydd Gwener 25 Hydref am 5pm

Ffi: £640 yr wythnos

Ymrwymiad: Dydd Llun 2 Rhagfyr - dydd Sul 29 Rhagfyr 2024
 

Dyddiad cau: 25/10/2024