Ydych chi’n barod i fynd ar lwyfan a gadael marc arbennig ar galonnau ein cynulleidfa? Allwch chi ysbrydoli a swyno pobl ifanc ac ifanc eu natur? Rydym yn chwilio am ymarferwyr a pherfformwyr creadigol arbennig i ymuno â ni am benwythnos mawreddog yn Venue Cymru ar 14 a 15 Ionawr.

PAM YMUNO Â NI?

Perfformiad Cloi Arbennig: Dychmygwch fod yn rhan o sioe olaf wych a fydd yn enwog am flynyddoedd i ddod. Mae gennych gyfle i ddisgleirio, ysbrydoli a syfrdanu ein cynulleidfa!

Gweithdai sy’n Ysbrydoli: Rhannwch eich arbenigedd gyda’r genhedlaeth nesaf trwy arwain gweithdai sy’n ysbrydoli a sesiynau galw heibio. Wrth fod yn addas ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd o bob math o allu a chefndiroedd, gallwch wneud effaith barhaus.

Byddwch yn Rhan o Rhywbeth MAWR: Ymunwch â chymuned ddawnus o 250 o ymarferwyr ac arweinwyr sy’n dod ynghyd i groesawu 13,000 o bobl dros ddeuddydd hudol – i gyd mewn un lleoliad anhygoel.

Chwalu Rhwystrau: Helpwch ni â’n bwriad i chwalu rhwystrau a sicrhau bod y celfyddydau’n hygyrch i blant a phobl ifanc o bob cefndir. Gall eich cyfraniad wneud gwahaniaeth mawr!

SUT I WNEUD CAIS

Os ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o’r strafagansa artistig hwn, anfonwch eich cynnig atom! Rhannwch eich gweledigaeth, gofynion technegol, gofynion o ran lle a’ch ffi ofynnol. Rydym ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Ddim am gymryd rhan yn y Perfformiad Cloi? Dim problem! 

Rydym hefyd yn chwilio am ymarferwyr angerddol sydd am ddarparu gweithdai, sesiynau galw heibio neu berfformiadau heb gymryd rhan yn y perfformiad cloi. Mae eich dawn yr un mor werthfawr wrth sicrhau bod y penwythnos yn fythgofiadwy!

Ymunwch â ni i greu hanes yn Venue Cymru! Gyda’n gilydd, beth am ysbrydoli, creu a thrawsnewid y byd trwy bŵer y celfyddydau. 

 Cysylltwch â ni nawr a byddwch yn rhan o rhywbeth wirioneddol arbennig!

INFO@VENUECYMRU.CO.UK

Dyddiad cau: 05/12/2023