Mae Arts Connection – Cyswllt Celf yn sefydliad sy’n creu cyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd i ddysgu a chael hwyl trwy gymryd rhan ym mhob ffurf ar y celfyddydau.
Fel Swyddog Prosiect, fe fyddwch chi’n cael y cyfle i ymuno â’n tîm bach ac yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu a gweithredu ein rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau.
Rydyn ni’n edrych am geisiadau oddi wrth bobl sy’n frwd dros y celfyddydau a thros ymgysylltu â chymunedau. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau oddi wrth y rheini sy’n gweithio mewn sectorau eraill, ac nid o reidrwydd ym myd y celfyddydau, sy’n frwdfrydig ynglŷn â’r rôl.
Bydd y Swyddog Prosiect:
- Goruchwylio cyflawni rhaglenni gwaith sydd eisoes yn bodoli a helpu i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau newydd a chyffrous
- Trwy gysylltu â’r rhwydwaith o artistiaid, helpu i ddatblygu eu sgiliau
- Gwerthuso ac adrodd ar ein gweithgareddau a’n digwyddiadau
- Goruchwylio amgylchedd gweithio diogel, gan gynnwys: iechyd a diogelwch, diogelu a hygyrchedd
Contract: Ionawr – Hydref 2024
Oriau: Rhan Amser (22.5 awr yr wythnos)
Cyflog: Graddfa 15 - 19 NJC: £25,878 – £27,852 y flwyddyn (pro rata) - £13.41 per awr - £14.44 yr awr (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Lleolir yn: Arts Connection – Cyswllt Celf, Y Dolydd (The Workhouse), Llanfyllin, Powys, SY22 5LD
Dyddiad Cau: Dydd Llun 23 Hydref, 9am
Llunio rhestr fer: Dydd Mawrth 24 Hydref
Cyfweliadau: Dydd Llun 30 Hydref