Ydych chi’n mwynhau creu cynnwys digidol difyr a deniadol? A hoffech chi ein helpu i gyfathrebu am waith Theatr Genedlaethol Cymru? Dyma’r swydd i chi!
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â ni. Ry’n ni’n awyddus i glywed gennych os ydych chi’n gyfathrebwr effeithiol sy’n gallu ymgysylltu’n dda gyda chynulleidfaoedd. Mae angen eich bod chi’n mwynhau creu a golygu cynnwys digidol o safon uchel ac yn awyddus i weithio mewn amgylchedd fyrlymus a chyffrous.
Bydd y Swyddog Marchnata yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu er mwyn gweithredu Strategaeth Marchnata a Chyfathrebu’r cwmni. Mae’r strategaeth newydd yn gosod pwyslais ar farchnata digidol, tra hefyd yn cynnal perthynas gyda chynulleidfaoedd trwy ddulliau mwy traddodiadol. Bydd y Swyddog yn gyfrifol am reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol y cwmni, gan gydlynu ac amserlenni cynnwys difyr, diddorol a chyson.
Cyflog: £27,923
Cyfnod: Parhaol
Oriau: Llawn Amser (37.5 awr yr wythnos)
Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni, darllenwch y pecyn recriwtio ar wefan Theatr Gen.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod sut y gallwn ni eich cefnogi i ymgeisio am y swydd - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 4 Tachwedd, 5pm
Cyfweliadau: 12 Tachwedd 2024