Ydych chi'n angerddol am ddod â chelf i bawb? Ydych chi’n credu yng ngrym y cyfrwng digidol i ymgysylltu pobl â’r celfyddydau? Rydym yn chwilio am Ymchwilydd Serameg brwdfrydig i ymuno â’n tîm cyfeillgar ac ymroddedig.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig unigolion sy’n profi rhwystrau corfforol, meddyliol neu gymdeithasol i gael mynediad i’r celfyddydau.
Elusen addysg gelf yw Art UK sy’n ceisio gwneud y gelfyddyd yng nghasgliadau cyhoeddus y DU yn hygyrch i bawb – er mwynhad, dysgu ac ymchwil. Mae’n galluogi cynulleidfa fyd-eang o bum miliwn o bobl y flwyddyn i ddysgu am gasgliad celf cenedlaethol y DU drwy ddigideiddio gweithiau celf ac adrodd y straeon y tu ôl i’r celf. Yn ogystal ag offer ymgysylltu arloesol fel Tagger a Curations, mae Art UK ar hyn o bryd yn gweithio ar fentrau newydd gan gynnwys rhaglen ddysgu fawr, gan wneud hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â'r sefydliad.
Mae’r rhaglen Cwmpasu Digido Serameg yn brosiect 12 mis, a ariennir gan The Headley Trust, i archwilio ychwanegu casgliadau serameg at lwyfan Art UK ac adrodd stori serameg yng nghasgliadau’r DU. Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut y gall Art UK fod yn gyfrwng i bobl ledled y byd ddod o hyd i serameg o gasgliadau’r DU a’i harchwilio.
Fel Swyddog Data Serameg, yn ddelfrydol byddwch wedi gweithio yn y maes prosesu data, neu bydd gennych brofiad mewn rôl archifol mewn sefydliad treftadaeth. Byddwch yn gyfforddus yn defnyddio ystod o dechnoleg ac yn gallu dysgu systemau newydd yn gyflym.
Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl ac yn gyfathrebwr da. Byddwch yn drefnus, yn benderfynol, ac yn llawn menter. Bydd gennych ddiddordeb mewn casgliadau celf a threftadaeth, a byddwch yn gyffrous i gael gweithio mewn sefydliad digidol sy’n trawsnewid mynediad i gelfyddyd y genedl.
- Pedwar diwrnod yr wythnos, 0.8 CALl
- Cytundeb cyfnod penodol am 12 mis
- Cyflog £28,000 y flwyddyn (pro rata)
- Gweithio o bell, unrhyw le yn y DU
I weld y disgrifiad swydd llawn ewch i'r dudalen swyddi ar ein gwefan.