Band cyflog y British Council: 6

Lleoliad: Y Deyrnas Unedig

Adran: Gweithrediadau Rhyngwladol

Math o gytundeb: Llawn amser - amhenodol

Cyflog: £25,520

Patrwm gwaith: Bydd gofyn fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn byw o fewn pellter cymudo i'n swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd gofyn i chi weithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd ddwywaith yr wythnos gan gynnwys bod yn bresennol ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau penodol.

Dyddiad Cau: 16eg Chwefror am hanner nos amser y DU

Rhaid bod gennych hawl gyfreithiol i weithio yng Nghymru ar adeg cyflwyno'ch cais.

Ni chynigir cymorth ar gyfer adleoli na chymorth nawdd ar gyfer y swydd hon. 

Mae'r British Council yn cefnogi dulliau gweithio newydd fel gweithio hybrid, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth lawn ein rheolaeth llinell ac yn amodol ar ein gallu i ddarparu'r lefel gwasanaeth priodol. Mae'n bosib na fydd hyn yn addas ar gyfer pob swydd, ond gellir trafod hynny ymhellach yn y cyfweliad.

Pwrpas y rôl

Mae'r Swyddog Cefnogi Prosiectau yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol hanfodol ar gyfer gweithgareddau addysg a chelfyddydau British Council Cymru, gweithgareddau'r Cyfarwyddwr Gwlad a'r gwaith o gyflawni busnes cyffredinol British Council Cymru. Mae'n gyfrifol am reoli tasgau gweinyddol a phrosiectau penodol ac mae hefyd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau bob dydd am faterion gweinyddol ac am ein gwefan.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae datganoli wedi symud y broses o wneud penderfyniadau ac atebolrwydd yn agosach at bobl Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Yn ogystal â'n haliniad strategol â blaenoriaethau'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a Llywodraeth Ei Fawrhydi, rydym wedi ymrwymo i gefnogi uchelgeisiau rhyngwladol perthnasol y Llywodraethau etholedig yng Nghaerdydd, Belffast a Chaeredin. Mae hyn oll yn greiddiol i'r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud, y gwerth yr ydym yn ei geisio a'r partneriaethau yr ydym yn eu meithrin.

Mae'r British Council yn chwarae rôl bwysig wrth rannu gweledigaeth gyffrous a llawn dychymyg o'r Deyrnas Unedig a'i phedair gwlad (gyda'u holl amrywiaeth, a'r oll sy'n gyffredin rhyngddynt) ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein hymrwymiad i Weithio ar ran y Deyrnas Unedig Gyfan.

Rheoli Prosiectau / Cyllid 

  • Yn gyfrifol am reoli cyfres o weithgareddau prosiect a thasgau gweinyddol y cytunwyd arnynt i gefnogi gwaith Cyfarwyddwr Cymru a'r timoedd Addysg a Chelfyddydau yng Nghymru ar draws pob maes cyflawni.
  • Cefnogi gwaith rheoli Pwyllgor Cynghori Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Ryngwladol, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, gweinyddu agendâu, paratoi a dosbarthu papurau a dogfennau a darparu cofnodion ac adroddiadau.
  • Cefnogi'r gwaith o drefnu, amserlennu a chynnal cyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb a digidol gan sicrhau ateb gofynion safonnau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad y British Council.
  • Cynllunio a threfnu adnoddau y rhoddir cyfrifoldeb i chi amdanynt yn unol â gofynion disgwyliedig i sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni'n effeithlon ac effeithiol, gan ddarparu adborth prydlon ar faterion yn ymwneud â chyflawni'r gwaith hwnnw.
  • Cynllunio a blaenoriaethu eich gwaith ei hun sy'n cefnogi holl amrywiaeth gwaith a gweithgareddau British Council Cymru (cysylltiadau allanol ym meysydd y celfyddydau ac addysg), a rheoli gofynion sy'n cystadlu â hynny i sicrhau eich bod yn cyflawni eich cyfrifoldebau yn effeithiol.
  • Sicrhau cyflawniad amrywiaeth o brosesau a gweithdrefnau ariannol corfforaethol i alluogi rheolaeth effeithiol o gyllidebau ac adnoddau ar ran tîm British Council Cymru. Er enghraifft, codi Archebion Prynu, cofnodi gwybodaeth berthnasol am werthwyr, cynnal a gweinyddu adroddiadau SAP, prosesau caffael a monitro cyllidebau.
  • Cefnogi'r gwaith o gasglu data monitro, gwerthuso ac adrodd yn brydlon, gan gynnwys casglu astudiaethau achos a chofnodi data ar SAP.
  • Cefnogi gwaith cyffredinol y swyddfa a gwaith cyflawni digwyddiadau - yn swyddfa British Council Cymru a thu hwnt - gan gynnwys rhoi cymorth gydag archebion arlwyo, deunyddiau swyddfa ac amrywiol bethau yn ôl y galw.
  • Cydlynu ag eraill (e.e. cyflenwyr, contractwyr, cydweithwyr mewnol) i sicrhau bod gweithgareddau / gwasanaethau yn cael eu cyflawni a'u cyflenwi yn unol â'r amodau y cytunwyd arnynt a/neu sicrhau bod cytundebau / prosiectau yn cael eu cyflawni mewn pryd.

Rheoli cysylltiadau a rhanddeiliaid

  • Yn bwynt cyswllt cyntaf i nifer o randdeiliaid y cytunwyd arnynt gan gynnwys Pwyllgor Cynghori Cymru, Grŵp Seneddol Cymru, Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Ryngwladol ayb
  • Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cyffredinol i British Council Cymru.
  • Sefydlu a chynnal cysylltiadau gwaith effeithiol gyda chyflenwyr a chontractwyr a phartneriaid perthnasol i hwyluso gwaith, prosiectau a gwasanaethau a sicrhau bod hynny'n rhedeg yn ddidrafferth.
  • Yn gyfrifol am gynnal a diweddaru ein bas data cysylltiadau yn gyson ar ran y tîm.

Gwasanaeth cwsmeriaid

  • Yn gyfrifol am reoli ymholiadau a ddaw i British Council Cymru drwy ein gwefan, gan gymryd cyfrifoldeb am ateb a bodloni ymholiadau allanol yn brydlon.
  • Cynnig gwasanaeth cwsmer rhagorol ym mhob pwynt cyswllt a chyd-destun.

Cysylltiadau / Rheoli ein gwefan 

  • Cefnogi ymgyrchoedd a gwaith tîm Cysylltiadau Cyhoeddus British Council Cymru gan gynnwys agweddau digidol a gweithio gyda chydweithwyr yn British Council Cymru a chydweithwyr yn y tîm Cysylltiadau. 
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn nhîm Cymru i sicrhau bod y wefan yn cael ei diweddaru'n gyson a chywir (yn Saesneg a Chymraeg).
  • Cefnogi'r gwaith o hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am raglenni British Council Cymru ar draws pob math o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, print a digidol - yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
  • Cyfrannu at ein gwaith dadansoddi piblinell arferol ac ymholiadau ad-hoc i roi gwybodaeth i'r Bwrdd Tairochrog (TAB).
  • Trefnu mynediad i Salesforce a hyfforddiant cysylltiedig.

Gofynion y rôl:

Hanfodol

  • Gradd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol
  • Profiad o gyflawni prosiectau/digwyddiadau gan gynnwys gweinyddu cyllid a chynllunio digwyddiadau wyneb yn wyneb a digidol.
  • Sgiliau cyfathrebu da gan gynnwys sgiliau ysgrifennu da.
  • Yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth (Word; Excel; PowerPoint); ac â gwybodaeth ymarferol o system SAP y British Council (neu'r gallu i addasu, os ydych yn ymgeisydd allanol).
  • Yn drefnus, ac yn gallu datblygu a dilyn cynlluniau gwaith sydd wedi'u blaenoriaethu.
  • Profiad o reoli cyllid ac adnoddau.
  • Sgiliau Technoleg Gwybodaeth da gan gynnwys dealltwriaeth o gyfryngau cymdeithasol.
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm a'r gallu i gysylltu'n effeithiol a phroffesiynol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Dymunol

  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) neu barodrwydd i ddysgu.
  • Profiad o weithio gyda chyllid, gan gynnwys SAP.
  • Profiad o reoli cynnwys gwefannau.
  • Profiad o waith cyfathrebu gan gynnwys defnyddio platfform cysylltiadau cwsmer.
  • Gwybodaeth am y sector addysg a/neu sector y celfyddydau yng Nghymru.
  • Dealltwriaeth o egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad.
     
Dyddiad cau: 16/02/2025