Rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid i helpu i gefnogi’r cwmni gyda gwaith gweinyddol ariannol. 

Dylech fod yn gyfarwydd â phrosesau cyfrifeg sylfaenol, dylech fod yn drefnus iawn ac yn gallu delio â thasgau gyda therfynau amser tynn. Mae’r Swyddog Cyllid yn rôl ganolog, gan weithio ar draws pob adran i ddarparu cymorth. Bydd deiliad y swydd yn gweithio i’r Rheolwr Cyllid, ac yn y pen draw i’r Prif Swyddog Gweithredu i sicrhau bod y systemau a’r prosesau ariannol yn cael eu dilyn i’r safon uchaf a bod safonau cydymffurfio’n cael eu cyflawni.

Teitl: Swyddog Cyllid
Cyfnod: Parhaol, Rhan-amser (21 awr yr wythnos)
Cyflog: £24,750 Cyfwerth ag Amser Llawn wedi’u haddasu’n pro rata.
Lleoliad: Mae ein swyddfa yng Nghaerdydd ond mae posibilrwydd i weithio hybrid
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd ddydd Iau 12 Medi 2024.
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Llun 30 Medi 2024. 

Bydd eich Dyletswyddau a Chyfrifoldebau yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Amrywiaeth o dasgau sy’n ymwneud â chynnal y cyfriflyfr enwol, y cyfriflyfr prynu a chadw cofnodion dwbl cyffredinol.
  • Sefydlu Cyflenwr Newydd, gan sicrhau bod y manylion banc i gyd yn gywir.
  • Sefydlu prosiectau newydd.
  • Prosesu a thalu anfonebau cyflenwyr, treuliau staff a Cheisiadau am Daliadau Dyfarniad gan ddefnyddio ein porth bancio ar-lein. 
  • Monitro balansau banc a gwneud trosglwyddiadau mewnol yn ôl yr angen.
  • Paratoi cysoniadau banc misol.  
  • Monitro ac olrhain anfonebau a dderbynnir gan sicrhau eu bod yn cael eu prosesu’n brydlon ac yn gywir. Monitro’r holl gostau, gan sicrhau bod y ffioedd yn cael eu hawdurdodi’n briodol a chadw at Ganllawiau presennol Ffilm Cymru, gan uwchgyfeirio materion os oes angen.  
  • Sicrhau bod costau’n cael eu cofnodi’n llawn ac yn gywir i adrannau a phrosiectau. 
  • Casglu dogfennau ategol priodol ar gyfer pob trafodyn, gan sicrhau bod llwybrau archwilio yn cael eu cynnal.
  • Cefnogi’r Rheolwr Cyllid gyda’r prosesau Adroddiadau Rheoli Chwarterol, cyllidebu a rhagweld.
  • Cyfrannu at wella systemau a phrosesau cyllid o fewn y sefydliad ehangach.
  • Gweinyddu proses Cardiau Credyd, casglu derbynebau, cysoni a phostio’r cyfnodolion misol. 
  • Ffeilio ac archifo electronig.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cyllid.
  • Cyflawni’r holl gyfrifoldebau mewn ffordd sy’n cefnogi gwerthoedd Ffilm Cymru ac sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd, cyfle cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn Ffilm Cymru a’r sector yn ehangach.

Pecyn Swydd Swyddog Cyllid Ffilm Cymru 2024

Sut mae Gwneud Cais 
Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat cais arall gyda chi, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol dros e-bost at Hayley Lau yn hayley@ffilmcymruwales.com gan amlinellu pryd rydych chi ar gael, yn ogystal â sut mae eich profiad a’ch sgiliau’n cwrdd â’r Gofynion Sylfaenol a’r fanyleb swydd a amlinellir o fewn y pecyn hwn. 

Defnyddiwch bennawd y pwnc: Rôl Swyddog Cyllid.

Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd ddydd Iau 12 Medi 2024.

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Llun 30 Medi 2024.

Nid yw Ffilm Cymru wedi’i drwyddedu i noddi dogfennau VISA felly rhaid i chi eisoes fod â hawl i weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y swydd hon. 

Cymorth ar gyfer Amrywiaeth, Cynhwysiant a Mynediad
Rydym ni’n credu mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydym ni’n frwd dros ehangu mynediad at y sector honno.

Byddwn yn cynnig cyfweliad yn awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni ein Gofynion Sylfaenol ar gyfer y rôl ac sy’n nodi eu bod yn Bobl y Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig, neu’n unigolion B/byddar, yn drwm eu clyw, yn anabl, neu’n niwroamrywiol. 

Mae cymorth ar gael i ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion B/byddar, trwm eu clyw, anabl, niwroamrywiol a phobl sydd wedi colli eu golwg. Cysylltwch â ni i ddweud sut gallwn ni helpu. Er enghraifft, gallwn dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni cyn gwneud cais, darparu cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau eraill ar gyfer gwneud cais, megis fideo byr neu gyflwyniad. Chi fydd yn ein harwain ni. 
  
Cysylltwch â Hayley Lou yn Hayley@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais. 
 

Dyddiad cau: 12/09/2024