Swyddog Cyllid
Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Parhaol
Gradd C: Cyflog cychwynnol o £32,915
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Mae cadw rheolaeth ar ein hadnoddau ariannol yn hanfodol i weithrediad effeithiol Cyngor y Celfyddydau. Gan weithio gyda’r Rheolwr Cyllid, bydd y Swyddog Cyllid yn sicrhau bod ein systemau rheoli mewnol yn gweithredu fel y dylent, a'n bod ni'n cydymffurfio â'n gofynion cyfreithiol, ein memorandwm ariannol, rhwymedigaethau cyfrifeg y llywodraeth a'r rheolau cyfrifeg ar gyfer elusennau.
Mae’r Swyddog Cyllid sy'n sicrhau bod y data a gedwir yn ein systemau cyfrifeg cyffredin a chyfrifiadurol yn gywir, yn gadarn ac yn gyfoes. Mae’r Swyddog Cyllid yn goruchwylio gweinyddiaeth bob dydd y trafodion ariannol a gyflawnir gan y Cynorthwywyr Cyllid, gan sicrhau bod yr holl daliadau'n cael eu gwneud yn brydlon.
Amdanoch chi
Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddol datblygedig iawn, sgiliau cyfathrebu da, gwybodaeth dda am systemau meddalwedd cyllid a systemau adrodd ariannol a phrofiad o gyllid ac atebolrwydd elusennau a'r sector cyhoeddus.
Byddwch yn gyfrifydd â chymwysterau rhannol a/neu â phrofiad perthnasol sylweddol.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12:00yh (hanner dydd), Dydd Gwener 23 Awst 2024
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 10 Medi 2024
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.