Mae Live Music Now yn awr yn chwilio am Swyddog Codi Arian yn y Gymuned I ymuno â’n tîm canolog. Mae’r swydd hon yn disgwyl i’r deilydd swydd fod yn gweithio yn un o swyddfeydd Live Music Now, naill ai yn Llundain (Somerset House) neu yng Nghaerdydd (Bae Caerdydd)
- Amser llawn - 37.5 awr yr wythnos – ystyrir oriau gwaith hyblyg
- Tymor penodol (12 mis)
- Cyfradd y gyflog: £24,400 - £26,700 yn ddibynnol ar brofiad /allu
Cynigir y swydd hon fel rhan o raglen Amser i Ddisgleirio (T2S) Sefydliad Rank. Mae hon yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus, a elwir yn “arweinyddion T2S y cyfle i brofi lleoliad cyflogedig arweinyddiaeth a datblygu mewn elusen am 12 mis.
Os ydych yn ddi-waith ar hyn o bryd, neu’n tan-gyflogedig (yn gweithio o dan eich lefel sgil) neu’n chwilio am eich cam cyntaf i yrfa, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Fel rhan o’r rhaglen T2S, byddwch yn treulio tua 15% o’ch amser ar eich datblygiad personol a phroffesiynol drwy fynychu gweithgareddau’r rhaglen arweinyddiaeth a chynadleddau datblygu drwy gydol y flwyddyn. Hefyd, byddwch chi’n gallu cael hyfforddiant mewnol yn Live Music Now, gan gynnwys ymchwilio i gael grantiau ac ysgrifennu i gael grantiau, stiwardio a rheoli gwirfoddolwyr.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymchwilio i’ch potensial i fod yn arweinydd fel rhan o raglen hir-sefydliedig a llwyddiannus wrth ddysgu sgiliau newydd mewn codi arian a chyfathrebu o fewn elusen.
Gallwch ddarllen mwy am y Sefydliad Rank a’r rhaglen Amser I Ddisgleirio yma Time to Shine programme here a access the candidate guide here.