Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Parhaol
Gradd C: Cyflog cychwynnol o £30,142
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Am y rôl
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’i dîm AD bach ond prysur. Mae’r Swyddog AD yn cefnogi gweithgareddau AD Cyngor y Celfyddydau trwy gynorthwyo’r Pennaeth AD i gyflawni amcanion strategol allweddol. Mae rôl y Swyddog AD yn amrywiol ac yn cynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau AD mewnol ac allanol, cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a mentrau AD, arwain ar ymgyrchoedd penodol recriwtio a phenodi, a chynhyrchu data ac adroddiadau ar gyfer ystod o Bwyllgorau mewnol.
Amdanoch chi
Rydych yn gymwys hyd at lefel 5 CIPD neu mae gennych brofiad proffesiynol perthnasol mewn rôl AD o fewn tîm AD prysur, gyda dealltwriaeth dda o brosesau a gweithdrefnau AD. Rydych yn deall deddfwriaeth cyflogaeth, mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac mae gennych ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chefnogi staff mewn perthynas â materion cyfrinachol a sensitif. Rydych hefyd yn deall yn drylwyr gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac wedi ymrwymo iddynt.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Mercher, 28 Medi 2022
Cyfweliadau: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.