Mae Engage, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Orielau, yn dymuno penodi Trysorydd newydd i weithredu fel ymddiriedolwr a chadeirio’r pwyllgor cyllid. 

Rydym ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol  profiadol ym maes cyllid elusennol sy’n gallu cefnogi ein bwrdd gyda dealltwriaeth ariannol ac adolygu adroddiadau cyllid a gynhyrchir gan ein tîm mewnol. Bydd gan y trysorydd newydd frwdfrydedd ac ymrwymiad i’r celfyddydau gweledol ond nid yw profiad blaenorol ar fwrdd yn hanfodol. 

Nid oes tâl i ymddiriedolwyr ond caiff treuliau rhesymol yr eir iddynt wrth gyflawni’r rôl eu had-dalu. Yr ymrwymiad amser y gofynnir amdano fel arfer yw pedwar cyfarfod bwrdd y flwyddyn, ynghyd â diwrnod cwrdd i ffwrdd hybrid.  

I gael disgrifiad manwl o’r swydd a gwybodaeth ar sut i ymgeisio ewch i: https://engage.org/jobs/engage-treasurer-trustee-vacancy/  

 

Engage 

Engage yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer addysg orielau yn y DU ac yn rhyngwladol, gydag aelodaeth yn cynnwys o ddeutu 750 o weithwyr proffesiynol mewn orielau ac ym meysydd celf ac addysg yn y DU. Mae Engage yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, ac mae’n derbyn cyllid gan Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland. Rydym hefyd yn derbyn cymorth gan nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau yr ydym yn gobeithio cynyddu eu nifer. 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ewch i www.engage.org.  

Dyddiad cau: Dydd Llun 16 Hydref, 9:00am 

Dyddiad cau: 16/10/2023