Gwybodaeth am NFTS Cymru Wales

Mae NFTS Cymru Wales yn darparu nifer o gyrsiau byr, tystysgrifau a diploma o safon fyd-eang yr NFTS.

Mae ein cyrsiau wedi’u haneli at unrhywun sy’n dymuno uwchsgilio neu ddatblygu eu gyrfa yn ogystal â’r rhai sydd angen hyfforddiant i sicrhau eu rôl gyntaf yn y diwydiant. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau, digwyddiadau a dosbarthiadau meistr wedi’u cynllunio a’u cyflwyno i gefnogi ehangder talent yng Nghymru. Rydym wedi ein lleoli yng nghanol diwydiant ffilm a theledu Cymru o fewn adeilad BBC Cymru yng nghanol Caerdydd.

Pwrpas y rôl:

Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Datblygu i gefnogi Pennaeth NFTS Cymru Wales i reoli allgymorth, dylunio a chyflwyno a rheoli busnes y cyrsiau yn hwb yr NFTS yng Nghaerdydd. Dylai’r person fod â phrofiad o weithio mewn digwyddiadau neu hyfforddiant ac yn ddelfrydol o fewn y diwydiannau sgrin.

Dyddiad cau: 17/03/2024