Mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru (mewn partneriaeth â Clwb Ifor Bach a Tŷ Cerdd – Canolfan Cerddoriaeth Cymru) yn cynnig comisiynau i 2 grëwr/berfformiwr cerddoriaeth yng Nghaerdydd - fel rhan o broses ddatblygu bresennol Dinas Gerdd Caerdydd. Cynigir y comisiynau i gydnabod sîn gerddoriaeth ffyniannus Caerdydd, gyda'r nod o feithrin a chynnal datblygiad yn y sector.

Bydd y ddau artist sy’n cael eu dewis yn derbyn ffi fyd-eang o £4000 yr un (i dalu am amser creu, costau cynhyrchu, treuliau) am gyfnod creu/preswyl o bedair wythnos o ddiwedd mis Mawrth. Bydd y berthynas breswyl yn cael ei thrafod a'i sefydlu gan y partneriaid, mewn ymgynghoriad â'r artistiaid.

Rydym eisiau herio artistiaid i archwilio gwneud gwaith sy'n datblygu eu portffolio perfformiad neu gynhyrchu, gyda'r bwriad o berfformio'r gwaith gorffenedig mewn lleoliad yn y ddinas yn nhymor yr hydref 2024 (mewn digwyddiad i gael ei drafod gan y partneriaid).

Diben y comisiynau hyn yw annog cerddorion i arbrofi ac archwilio syniadau newydd. Rydym wedi gadael y brîff mor agored â phosibl yn bwrpasol, er mwyn caniatáu bod mor greadigol â posibl ac osgoi cyfyngu ar ddychymyg artistiaid. Byddem yn disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno syniadau sy'n ceisio arloesi a gwthio ffiniau creu a pherfformio cerddoriaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 17:00 Ddydd Mawrth 5 Mawrth 2024

 

Dyddiad cau: 05/03/2024