Cyfle
Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am wasanaethau ymgynghorydd neu asiantaeth celf gyhoeddus â phrofiad helaeth o greu strategaethau celf gyhoeddus i lunio strategaeth celf gyhoeddus ar gyfer Glannau SA1 Abertawe.
Ariennir y comisiwn a'r strategaeth gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU; mae cyllid gweithredu cam 2 ar gael, sy’n cynnwys ffioedd ychwanegol a chyllidebau comisiynu trwy arian Adran 106 sy’n destun estyn contract.
Cefndir
Mae canol dinas Abertawe yn cael ei ailddatblygu'n sylweddol, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer ymyriadau celfyddydol. Rydym am weld artistiaid yn cymryd rhan gadarnhaol wrth ddiffinio ein hymdeimlad o le, llunio'r modd y caiff y ddinas ei hamgyffred yn y dyfodol, a gwella bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y ganolfan drefol.
Nod yr ymgynghoriaeth
Llunio strategaeth celf gyhoeddus ar gyfer Glannau SA1 Abertawe sy'n ychwanegu gwerth sylweddol at fannau cyhoeddus drwy gyflawni'r amcanion canlynol:
1. Gwella Glannau SA1 Abertawe a'i atyniad i gymunedau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn ogystal ag annog ymwelwyr newydd.
2. Creu gweledigaeth a fframwaith ar gyfer comisiynu cyfres o gelfweithiau parhaol a/neu dros dro, ymyriadau creadigol, digwyddiadau a gosodiadau sy’n adlewyrchu’r nodweddion a’r cyfleoedd unigryw a ddarperir ar y safle.
3. Creu ymdeimlad unigryw o le drwy arddangos a gwella nodweddion presennol yr ardal fel yr amgylchedd adeiledig a naturiol, a threftadaeth.
4. Ffurfio cyswllt rhwng Glannau SA1 Abertawe a chanol dinas Abertawe.
5. Meithrin balchder a hyder dinesig a gwella proffil cyhoeddus drwy sefydlu enw da am gelf nodedig ac o ansawdd uchel yn y mannau cyhoeddus sy'n gosod meincnod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
6. Llunio model o arfer da ar gyfer datblygiad strategol a gweithredu prosiectau celf gyhoeddus gyfoes yn Abertawe.
Ffi: hyd at £65,000
I gael manyleb a manylion o ran sut i gyflwyno cais, e-bostiwch:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 19 Chwefror 2024