Rydym yn cynnig cyfle gwych i berfformio yn y Sblash Mawr 2025, ac rydym yn chwilio am grwpiau cymunedol ac artistiaid a hoffai gymryd rhan ar y Llwyfan Dathlu, Llwyfan y Doc, ac Ardal Usk Plaza.

Rydym yn galw ar gorau, grwpiau dawns, cerddorion, beirdd, storïwyr, perfformwyr syrcas, digrifwyr ac unrhyw un arall lleol sydd am berfformio a dangos eu creadigrwydd i'r ddinas i gysylltu â ni, gan y byddem wrth ein bodd yn eich arddangos chi neu'ch sefydliad.

Mae Sblash Mawr wedi ymrwymo i gynrychioli grŵp mor amrywiol â phosibl o gymunedau. Yn benodol, rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhywedd ac o bob oed, perfformwyr Cymraeg eu hiaith, pobl ag anableddau, a chynrychiolwyr o gymunedau LHDTCRhA+ ac o’r mwyafrif byd-eang. 

Bydd y llwyfannau'n fyw – dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 11am-5pm a dydd Sul 20 Gorffennaf 12pm-16:30pm. 

Rhaid i'ch act gyfan fod yn addas i deuluoedd a phobl o bob oed. 

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: Dydd Sul 1 Mehefin 2025.
 

Dyddiad cau: 01/06/2025