- Grantiau Sbardun Momentwm PPL o hyd at £5,000 ar gael i saith artist wedi’u lleoli yng Nghymru ar gyfer cymorth a datblygiad gyrfaol
- Cymorth Sbardun Momentwm PPL o hyd at £2,000 ar gael i ddau ddarpar weithiwr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth wedi’u lleoli yng Nghymru
- Dyddiad cau i ymgeisio: 17/02/2025
Bydd cronfa Sbardun Momentwm PPL Sefydliad PRS yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i artistiaid dawnus yng Nghymru i gefnogi eu datblygiad gyrfaol. Bydd arian Sbardun Momentwm PPL yn darparu cymorth hollbwysig i artistiaid cyffrous sy'n gweld cynnydd yn nifer eu dilynnwyr, ac sy’n gweithio ar hyn o bryd i sefydlu tîm diwydiant cerddoriaeth.
Yn ogystal, mae cymorth o hyd at £2,000, a allai gynnwys micrograntiau, mentora neu gymorth cyfannol arall, ar gael i ddarpar weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd.
Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw: 17 Chwefror 2025 am 18:00
Mae’r fenter cronfa Sbardun Momentwm PPL, sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad PRS, yn dyfarnu grantiau gan ddefnyddio arian o Sefydliad PRS, PPL ac Chyngor Celfyddydau Cymru.