Rydym yn chwilio am Reolwr Llwyfan â meddylfryd Technegol, i helpu i gynnal ein taith Giselle sydd i ddod.
Cyfnod y Contract: 11 Wythnos, 5 Mai 2025-20 Gorffennaf 2025
Cyflog: £650 yr wythnos
Pensiwn: Yr opsiwn i ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Cwmni
Hawl i Wyliau: 6 diwrnod, o fewn cyfnod y contract
Lleoliad: Ballet Cymru, Casnewydd, NP10 9FQ
Cyfnod: Cyfnod penodol; bydd oriau gwaith anghymdeithasol yn ofynnol. 43 awr yr wythnos ar gyfartaledd ar draws cyfnod y contract, wythnos waith chwe diwrnod.
Buddion a hawliau: Darperir llety a £31 Per Diem ar gyfer aros dros nos i ffwrdd o Gasnewydd. Lwfans adleoli yn ôl disgresiwn o £75 yr wythnos am hyd y prosiect, ynghyd â lwfansau yn ôl disgresiwn.
Rheolwr Llwyfan Technegol
Manyleb y Person
Hanfodol
- Gwybodaeth am Feddalwedd Eos Family ETC
- Gwybodaeth am QLab 4 a QLab 5
- Profiad o theatr dechnegol broffesiynol
- Y gallu i godi a chario a gweithio ar uchder
- Y gallu i reoli perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol
- Trwydded yrru lawn lân
- Sgiliau rhagorol o ran meddalwedd MS365
- Cymhwysedd i weithio yn y DU.
Gwneud cais
I wneud cais, anfonwch eich CV, ynghyd â llythyr eglurhaol sy'n nodi eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer y rôl, a hynny trwy e-bost at Reolwr Cynhyrchu Ballet Cymru, Jonah Stein jonahstein@welshballet.co.uk
Y Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais: 24 Chwefror 2025
Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Cynhelir y cyfweliadau yr wythnos yn dechrau 3 Mawrth yn Ballet Cymru.
Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad, a hynny ar sail barhaus nes bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael ei benodi i'r swydd.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr y Mwyafrif Byd-eang. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion o ran mynediad.
Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig o dan yr enw Gwent Ballet Theatre Limited.