DATBLYGU yw’r edefyn o’n gwaith sy’n ffocysu ar ddatblygu ein cyn-artistiaid (dros 500 o artistiaid anabl o bob rhan o’r DU sydd naill ai wedi derbyn cymorth ariannol gan Unlimited, neu wedi bod ar restr fer) a’r sector diwylliant, yn cynnwys ein Cynghreiriaid.
Crëwyd yr edefyn i edrych ar y gwahanol ddulliau y gallwn eu defnyddio i gefnogi’r gwaith o adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy ar gyfer artistiaid anabl. Mae hyn yn cynnwys uwchsgilio ac ymestyn gwybodaeth, ynghyd â chynnig cyfleoedd rheolaidd i’n cronfa o gyn-artistiaid, sy’n cynyddu’n gyson. Ymhlith y dulliau a ddefnyddir gennym i ddatblygu ein cyn-artistiaid mae bwrsariaethau, digwyddiadau, a sesiynau datblygu sgiliau, gan ymateb i anghenion ein cyn-artistiaid, sy’n newid yn gyson.
Teitl y swydd: Rheolwr Rhaglen: DATBLYGU
Yn atebol i’r: Uwch-gynhyrchydd
Yn gyfrifol am: Bod yn rheolwr llinell ar un aelod o’r staff, cyflenwyr llawrydd, ac artistiaid
Math o gytundeb: Cytundeb 12-mis, tymor penodol, gyda’r posibilrwydd o estyniad
Oriau: 0.5 FTE, sy’n gyfystyr â 2.5 diwrnod neu 20 awr. Mae gan Unlimited ddiwylliant gwaith hynod addasadwy, gydag oriau gwaith hyblyg sy’n cynnwys
peth teithio a gweithio ambell benwythnos/fin nos pan fo angen. Rydym yn gweithredu polisi o gynnig amser rhydd (TOIL) i ddigolledu staff.
Cyflog: £33,063 y flwyddyn, pro rata