Atebol : i'r Cyfarwyddwr Gweithredol
Cyfrifoldebau : am Artistiaid Cymunedol Llawrydd/ Tiwtoriaid/ Fideograffi/ Gwirfoddolwyr
Dyddiadau’r Prosiect: Ebrill 2025 – Ionawr 2026
Telerau: Llawrydd, Ffi o £15,000
Lleoliad: Ystradgynlais, rhywfaint o weithio o bell yn bosibl
Rôl:
• Datblygu, paratoi a gweithredu cynlluniau ar gyfer ein prosiect Celf a Gweithredu Yng Nghalon y Maes Glo sy'n cysylltu ag ysgolion, sefydliadau cymunedol a chymunedau ehangach, yn sicrhau prosiect o ansawdd uchel sy'n gweithredu yn unol â'r amserlen ac o fewn y gyllideb.
Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:
• Cynllunio, paratoi a gweithredu rhaglen ymgysylltu a digwyddiadau cynhwysol
• Recriwtio a chefnogi tîm o weithwyr llawrydd a gwirfoddolwyr fydd yn cyflwyno gweithdai ar adrodd straeon digidol/hanes llafar/gwneud baneri
• Arwain y tîm wrth gyflwyno cyfres o weithdai a digwyddiadau, gan gynnwys ymweliadau safle amrywiol
• Darganfod cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth i nifer fechan o wirfoddolwyr
• Cefnogi marchnata a chysylltiadau cyhoeddus y prosiect
• Datblygu cysylltiadau a phartneriaethau cadarnhaol gyda sefydliadau cymunedol ac aelodau o'r gymuned er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn adlewyrchu amrywiaeth cymdeithasol yr ardal a'i hanghenion
• Rheoli risg a chyllideb y prosiect
• Arwain ar y broses o werthuso'r rhaglen gyda chefnogaeth gwerthuswr llawrydd allanol i fesur ei heffaith yn erbyn casgliad o amcanion a chanlyniadau
• Unrhyw weithgaredd arall y bernir yn briodol yn ôl yr angen er mwyn cyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus
Profiad Angenrheidiol:
• profiad sylweddol o reoli prosiect mewn rôl yn y Celfyddydau a/neu Dreftadaeth gan gynnwys gwerthuso prosiectau
• sgiliau rhyngbersonol, rhwydweithio ac ymgysylltu cymunedol rhagorol
• Y gallu i fynychu sesiynau yn Ystradgynlais wyneb yn wyneb
Profiad a Ddymunir:
• Sgiliau iaith Gymraeg
• dealltwriaeth o gymuned a hanes Ystradgynlais
Cais trwy CV i Wynne Roberts erbyn dydd Iau 17fed Ebrill 2025.
Ariennir y swydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri