Byddi di wedi dy gyffroi gan y cyfle i fod yn rhan o dîm sy'n gweithio i ddatblygu cynhyrchiad newydd.

Byddi di'n aelod cryf o dîm, ond byddi di hefyd yn gallu gweithio'n dda yn annibynnol gan ddangos menter a'r gallu i flaenoriaethu. Rwyt ti'n ddatryswr problemau ardderchog, yn enwedig o dan bwysau.

Rwyt ti'n byw yng Nghymru, neu cefaist ti dy eni a/neu roeddet ti'n astudio yma.

Sgiliau a phrofiad a ystyriwn yn bwysig ar gyfer y rôl hon:

  • Gallu profedig i greu a chynnal perthynas waith gadarnhaol gyda chyfarwyddwr a thîm creadigol

  • Profiad o weithio fel rhan o dîm rheoli llwyfan ymarferol

  • Profiad o arwain tîm mawr ar daith

  • Personoliaeth hawdd mynd ati a hyderus

  • Meddu ar wybodaeth ymarferol o Iechyd a Diogelwch

  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig

Dyddiad cau: 13/11/2023