Ymunwch â'n Tîm fel Rheolwr Datblygu Theatrau

Ydych chi'n angerddol am y celfyddydau perfformio ac yn awyddus i arwain tîm dynamig a chreadigol? Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am Reolwr Datblygu Theatrau profiadol ac ymroddedig i helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau theatr a gwella ein heffaith ddiwylliannol ar y gymuned.

Ynglŷn â'r rôl

Fel Rheolwr Datblygu Theatrau, byddwch yn arwain ac yn rheoli Theatrau Sir Gâr, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn un sydd o safon, yn llwyddiannus yn fasnachol ac yn canolbwyntio ar y cwsmer, gan hybu cynulleidfaoedd a gweithgarwch trwy raglen ddychmygus a chytbwys. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r rhanddeiliaid presennol a darpar randdeiliaid i ddatblygu'r gwasanaeth a'i adnoddau.

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • Arwain a rheoli staff, cyllidebau, adeiladau, cynulleidfaoedd, a rhaglenni.
  • Sicrhau safonau uchel o ran profiad yr ymwelwyr a gofal cwsmeriaid.
  • Datblygu a chynnal perthynas gynhyrchiol â rhanddeiliaid fel ffordd o sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei ddarparu.
  • Creu amgylchedd sy'n grymuso'r staff.
  • Cynllunio busnes, perfformiad ariannol a llunio adroddiadau cywir.
  • Cydymffurfio â pholisïau'r awdurdod, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, a deddfwriaeth drwyddedu.

Byddwch yn arweinydd creadigol a brwdfrydig gyda phrofiad sylweddol ym maes theatrau a'r celfyddydau perfformio ac yn gallu rheoli a threfnu busnes y theatrau. Byddwch yn weithiwr proffesiynol hyblyg sy'n croesawu newidiadau ac sy'n meddu ar y gallu i ymaddasu wrth weithio, a hynny mewn ffordd bwyllog. Byddai meddu ar brofiad o ddarparu gwasanaeth creadigol, yn ogystal â chefndir yn y sector theatrau a'r gwasanaeth cyhoeddus yn benodol, yn fantais bendant.

Bydd yn ofynnol i chi weithio'n hyblyg, gan gynnwys gyda'r nos, ar benwythnosau, ac ar Wyliau Banc a byddwch yn meddu ar y gallu i deithio a mabwysiadu arferion gwaith ystwyth. Oriau gwaith y swydd yw 37 awr yr wythnos.

I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â janedavies@sirgar.gov.uk neu ijones@carmarthenshire.gov.uk.

Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau theatr a'u harwain i uchelfannau newydd, gwnewch gais nawr!

Math o gontract:  Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:  Llanelli

Gradd:  Gradd L

Cyflog:  £49,764 - £53,829

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:  £25.79 - £27.90

Oriau Contract:  37
 

Dyddiad cau: 13/05/2025