Rydym yn recriwtio Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol parhaol, rhan-amser i ymuno â’n tîm sy’n fach ond yn egnïol.

Bydd rôl Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol yn cynnwys gweithio i sefydlu cysylltiadau ag artistiaid a chymunedau ledled Cymru, a threfnu cyfleoedd a mannau ar gyfer rhannu a thyfu gweithgarwch. Bydd yr ystod gyfan o gerddoriaethau traddodiadol sy’n bodoli yng Nghymru yn rhan o’r rôl, a bydd y Rheolwr Datblygu yn gweithio â sefydliadau a mudiadau cysylltiedig, cynheiliaid traddodiad, grwpiau cymunedol a sefydliadau proffesiynol i gysylltu ag ymarferwyr ledled gwahanol arferion.

Contract ac oriau 

  • Contract parhaol, 3 diwrnod yr wythnos (22 awr)
  • oriau hyblyg y bosibl (bydd dydd Mawrth yn ddiwrnod gweithio rheolaidd)

Lleoliad 

Caerdydd (ond gall deiliad y swydd weithio o bell o unrhyw le yng Nghymru)

Cyflog dechrau

£29,000 pro rata

Dyddiad cau              

12:00 hanner dydd, Dydd Mercher 16 Gorffennaf
 

Dyddiad cau: 16/07/2025