Llawn amser (37 awr yr wythnos), cytundeb cyfnod penodol o 10 mis (absenoldeb mabwysiadu)
I ddechrau cyn gynted â phosib
Cyflog: £35,000 pro rata
Lleoliad: Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, LL52 0LW
Mae tîm Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Mae’r gallu i weithio oriau anghymdeithasol, yn cynnwys ambell benwythnos, gŵyl y banc ac 1 noson yr wythnos yn hanfodol oherwydd natur cyfrifoldebau’r rôl hon. Bydd cyfle yn achlysurol i weithio o adref.
Dyddiad Cau: dydd Iau 3 Gorffennaf, hanner dydd
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 7 Gorffennaf
Noder ein bod yn agored i drafod cynigion ar y cyd i rannu’r swydd hon.
I ddysgu rhagor am Llenyddiaeth Cymru, ein hegwyddorion, a’n cynnig i staff, cliciwch ar y dolenni isod:
Buddion a Chyfleoedd Datblygu Proffesiynol i Staff
Ynglŷn â Rôl Rheolwr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Mae Tŷ Newydd yn ganolfan breswyl sy’n croesawu grwpiau o awduron i gymryd rhan mewn cyrsiau i ddatblygu eu crefft ysgrifennu creadigol. Defnyddir y Ganolfan yn achlysurol ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, cynadleddau, a gofod gwyliau preifat. Mae hi’n ganolfan fywiog sy’n brysur drwy gydol y flwyddyn.
Rheolwr Canolfan Tŷ Newydd sydd yn gyfrifol am reoli’r Ganolfan o ddydd i ddydd. Ymysg y prif gyfrifoldebau y mae sicrhau fod cyfundrefnau iechyd a diogelwch a rheoli risg ar waith, arwain ar brofiad lletygarwch safonol a chroesawu gwesteion, a rheoli cyllidebau ariannol. Drwy weithio yn agos â thîm y Ganolfan, mae gan y Rheolwr drosolwg o’r gwaith rheoli gwasanaethau arlwyo, glanhau a garddio. Yn ogystal ag ymgymryd â gwaith paratoi trefnus o flaen llaw, mae gofyn hefyd i ddatrys problemau byr rybudd i sicrhau fod cyrsiau a gweithgareddau’r ganolfan yn mynd rhagddynt yn esmwyth. Y Rheolwr sydd yng ngofal cydlynu’r gwaith o gynnal a chadw’r adeilad, gan gynnal perthynas waith agos gyda chrefftwyr lleol i warchod a gwella’r safle.
Mae’r rôl hefyd yn gweithio’n agos gyda thimoedd ar draws y sefydliad yn cynnwys y tîm cyfathrebu i fwydo data ar archebion a chwsmeriaid i hybu gwerthiant cyrsiau, a’r tîm ariannol i gyllidebu, gwneud rhagolygon ariannol, codi anfonebau ac i sicrhau fod holl brosesau ariannol Tŷ Newydd yn cael eu cyflawni.
Bydd y Rheolwr yn croesawu gwesteion o bob cwr i Dŷ Newydd. Mae nifer o’r gwesteion hynny o Gymru, ac mae sgiliau cyfathrebu Cymraeg sylfaenol yn hanfodol i’r rôl hwn.
Cyfrifoldebau allweddol
- Cyfrifoldeb dros weithrediadau Tŷ Newydd fel canolfan breswyl, yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): cyswllt gyda chwsmeriaid ag artistiaid; gweinyddu archebion yn cynnwys casglu ffioedd a phrosesu anfonebau; ymwneud â chyflenwyr; goruchwylio’r drefn arlwyo, glanhau a threfniadau llety; cytundebu a threfnu anghenion cynnal a chadw.
- Cyfrifoldeb dros reoli cyllidebau, yn cynnwys rhagolygon a chysoni.
- Sicrhau cydymffurfio gyda’r gyfraith a rheoliadau, gan gynnwys anghenion iechyd a diogelwch a rheoli risg.
- Arwain ar elfennau lletygarwch y safle, yn cynnwys croesawu gwesteion ar noson gyntaf eu preswyliad, sy’n cynnwys cyflwyniad o groeso a sôn am brosesau iechyd a diogelwch; cadeirio nosweithiau gyda darllenwyr gwadd; gweithio oriau anghymdeithasol yn ôl yr angen.
- Cydweithio gyda’r Cydlynwyr Lletygarwch ac Arlwyo i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel ar y safle, yn cynnwys bod â chyfrifoldeb dros gyflwr yr adeilad a’r gerddi cyn dyfodiad pob grŵp.
- Cydlynu’r swyddfa yn cynnwys rheoli adnoddau a gwasanaethau megis y ffôn a cyswllt i’r we; ymateb i ymholiadau amrywiol; cynnal calendr y ganolfan a chynnal systemau archebion.
- Cyfrannu at brosesau a dogfennau sefydliadol Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys gwaith casglu ac adrodd ar effaith, ac adrodd ar gynnydd yn erbyn targedau.
- Sicrhau fod targedau amgylcheddol yn cael eu gwireddu yn Nhŷ Newydd.
- Unrhyw dasgau eraill yn ôl y gofyn.
Yn adrodd i’r: Cyfarwyddwr Artistig
Addasrwydd ar gyfer y rôl
Rydym yn chwilio am rhywun sydd â:
- Phrofiad o reoli canolfan neu westy ac/neu reoli busnes.
- Dealltwriaeth o edrych ar ôl adeilad a rheoli gwasanaethau.
- Gwybodaeth ddwys o gyfundrefnau iechyd a diogelwch a rheoli risg.
- Ymwybyddiaeth o sut i gynnal safonau gwyrdd ac amgylcheddol garedig o fewn gweithdrefnau’r ganolfan.
- Dealltwriaeth o brosesau gwerthiant a’r gallu i weithio fel rhan o dîm i’w tracio a’u cynyddu.
- Dealltwriaeth dda o systemau cyfrifiadurol yn cynnwys Excel, system CRM neu system reoli archebion.
- Dealltwriaeth da o gyllidebau, rhagolygon ariannol, adroddiadau cysoni ariannol a chodi anfonebau.
- Sgiliau cwsmer a lletygarwch cyfeillgar a hyderus, a’r gallu i ddatrys problemau.
- Y gallu a pharodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol, yn cynnwys ambell benwythnos, gŵyl y banc ac 1 noson yr wythnos.
- Sgiliau cyfathrebu clir, sensitif a chadarnhaol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Sgiliau cyfathrebu sylfaenol yn y Gymraeg, ac agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith.
Sgiliau dymunol:
- Profiad o reoli llinell.
- Sgiliau cyfathrebu Cymraeg cryf, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Diddordeb mewn llenyddiaeth a’r celfyddydau.
- Profiad o siarad cyhoeddus.
- Ymwybyddiaeth o gynnal Adeiladau Rhestredig.
Bydd unrhyw gynigion swydd yn cael eu gwneud yn amodol ar wiriad DBS priodol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ond yn ansicr a oes gennych brofiad ddigonol, cysylltwch ag Alys Lewin, Rheolwr Gweithrediadau (alys@llenyddiaethcymru.org / 02920 472266) am sgwrs anffurfiol.
Sut i wneud cais
- Darllenwch y disgrifiad swydd uchod a'r rhestr addasrwydd yn ofalus. Hefyd, darllenwch Gynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2022-27 ac edrychwch ar adrannau ein gwefan.
- Ysgrifennwch lythyr cais* neu greu cais fideo* yn esbonio pam eich bod â diddordeb yn y rôl, a sut yr ydych yn addas ar ei chyfer (e.e., soniwch am eich profiadau, a pha elfennau penodol sy’n eich diddori am y swydd). Bydd ceisiadau ysgrifenedig a cheisiadau fideo yn cael eu hasesu yn gyfartal.
*Uchafswm o 2 dudalen A4, neu fideo 5-munud.
- Anfonwch y canlynol at post@llenyddiaethcymru.org erbyn dydd Iau 3 Gorffennaf, hanner dydd:
- Eich llythyr cais neu fideo;
- Eich CV, manylion dau ganolwr sy'n eich adnabod mewn cyd-destun proffesiynol. Byddwn ond yn cysylltu â chanolwyr ar ôl i gynnig o gyflogaeth gael ei dderbyn;
- Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llenyddiaeth Cymru wedi'i chwblhau: https://www.surveymonkey.com/r/2QJXSMH
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn asesu’r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad yn Nhŷ Newydd ar yr wythnos yn dechrau 7 Gorffennaf. Byddwn yn cadarnhau o flaen llaw pwy fydd ar y panel cyfweld yn cynrychioli tîm Llenyddiaeth Cymru.
Er mai cyfweliad ffurfiol fydd hwn, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod pob ymgeisydd yn gyfforddus â'r broses gyfweld. Os bydd y broses yn achosi unrhyw bryder i chi, rhowch wybod i ni o flaen llaw a gallwn drefnu cyfarfod anffurfiol neu sgwrs dros y ffôn/fideo cyn y cyfweliad gydag Alys Lewin, Rheolwr Gweithrediadau.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig (1146560) sy’n gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.