Yn cyhoeddi ein rhaglen haf o weithdai creadigol!
Rydym yn cynnal gweithdai 2 ddiwrnod ar benwythnosau trwy gydol yr haf. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn Abertawe a’r cyffiniau sy’n uniaethu fel person LHDTC+.
Cymerwch ran mewn ysgrifennu creadigol, symud, celf weledol/dylunio a pherfformiad cabaret.
Mae'r prosiect hwn yn gyfle i gysylltu pobol a chymunedau LHDTC+ Abertawe mewn cyfres o weithdai creadigol, yn archwilio a dysgu drwy brofiadau a theithiau bywyd ein gilydd.
Bydd y prosiect rhyng-genedlaethol yma yn sicrhau gofod saff, creadigol a chynwysedig i bobol cwîar Abertawe gael dathlu eu hanes, gyda phopeth yn dod at ei gilydd mewn ffrwydrad creadigol o ddigwyddiadau yn ystod Nadolig 2024.
Dyddiad cau: 01/09/2024