PANTOMEIM JACK AND THE BEANSTALK YN THEATR Y LYRIC, CAERFYRDDIN

Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am reolwr/wraig llwyfan cwmni i ymuno â thîm JACK AND THE BEANSTALK, sy’n cael ei gynnal rhwng 14 a 28 Rhagfyr 2023 yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Eleni bydd y pantomeim yn cael ei gynhyrchu’n fewnol yn Theatr y Lyric, mewn trefniant â chynhyrchwyr pantomeim profiadol, Imagine Theatre Ltd. Bydd y tîm cynhyrchu yn cynnwys cymysgedd o staff cynhyrchu/technegol mewnol a staff llawrydd.

Mae hwn yn gontract cyfnod penodol ar gyfer gwasanaethau, sy'n mynnu eich bod yn hunangyflogedig.

I wneud cais anfonwch CV a naill ai llythyr eglurhaol, fideo, neu ffeil sain yn mynegi eich diddordeb yn y gwaith at Cynhyrchu@sirgar.gov.uk.

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 11 Hydref 5pm

Ffi: Hyd at £675 y wythnos yn dibynnu ar brofiad, gan gynwys tâl gwyliau (+ chostau cynhaliaeth os yw'n berthnasol). 

Ymrwymiad: Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr – Dydd Sul 31 Rhagfyr 2023

Manyleb Person:

  • Profiad proffesiynol blaenorol o reoli llwyfan yn gweithio gyda theatr/cwmni cynhyrchu (yn ddelfrydol gyda phrofiad blaenorol o weithio ar bantomeim).
  • Gwybodaeth ymarferol dda o arferion Iechyd a Diogelwch o fewn y theatr
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm hyblyg, gan ymateb i heriau, cyfrannu syniadau, cefnogi aelodau eraill y tîm ac arwain timau yn ôl yr angen.
  • Y gallu i beidio â chynhyrfu, gweithio'n unol â therfynau amser caeth, a datrys problemau.

Cyfrifoldebau:

  • Sicrhau lles y cwmni drwy gynnal gwybodaeth ymarferol dda o’r holl ddeddfwriaethau iechyd a diogelwch perthnasol ac arfer gweithio da.
  • Mewn ymgynghoriad â staff technegol y lleoliad, sicrhau bod pob man gwaith yn drefnus ac yn lân.
  • Trefnu galwadau a chydlynu amserlenni ymarfer a sicrhau bod yr holl ymarferion technegol yn cael eu cynnal yn hwylus ac effeithlon ar y cyd â'r Cyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Cerdd, Coreograffydd ac aelodau eraill o'r tîm cynhyrchu.
  • Llunio a rhedeg y ‘sgript annog’ neu’r ‘llyfr’ gan gadw nodyn diweddar o flocio, diwygiadau awdurdodedig i’r sgript, a’r gofynion ar gyfer propiau, goleuo a sain.
  • Bod yn gyfrifol am yr elfennau technegol a'r sain a phyrotechneg os oes angen.
  • Cydgysylltu â'r holl warchodwyr, gan roi gwybod am unrhyw broblemau yn ôl i'r adran angenrheidiol yn effeithlon.
  • Cynhyrchu'r holl waith papur sy'n ymwneud â'r sioe cyn ymarfer technegol gan gynnwys plot newid golygfa, systemau hedfan ac ati, a llunio adroddiadau am yr ymarferion a’r sioe y dylid eu dosbarthu'n ddyddiol.

 

Dyddiad cau: 11/10/2023