Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Perygl - Aelodau Annibynnol
Tymor tair blynedd i ddechrau
Di-dâl yw’r swydd ond talwn gostau teithio a chynhaliaeth resymol
Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn digwydd ar-lein fel arfer
Rydym yn chwilio am 2 aelod annibynnol newydd i ymuno â'n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Perygl. Rhaid i un o leiaf gael profiad ariannol proffesiynol.
Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am gefnogi'r Cyngor a'r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw ein sicrwydd llywodraethu, ein rheolaeth o berygl, amgylchedd ein rheolaeth a chywirdeb ein datganiadau ariannol a'n hadroddiad blynyddol. Bydd hyn yn hyrwyddo'r safonau uchaf o briodoldeb ac atebolrwydd priodol wrth ddefnyddio arian cyhoeddus. Bydd hefyd yn gyfrifol am fonitro gwaith yr archwilwyr mewnol ac allanol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â'r cefndir a/neu'r sgiliau canlynol:
- dealltwriaeth o'r amgylchedd y mae’r Cyngor yn gweithio ynddo, gan gynnwys llywodraethu ac atebolrwydd yng nghyd-destun y sector cyhoeddus a/neu elusennol
- profiad diweddar a pherthnasol o waith ariannol, cyfreithiol a/neu archwilio uwch
- profiad o sefydliadau sy'n dosbarthu arian, gan gynnwys dosbarthwyr grantiau, a dealltwriaeth dda o'r heriau sy'n wynebu sefydliadau sector cyhoeddus neu drydydd sector
- profiad o reoli uwch, yn ddelfrydol wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn sector sydd o fudd i gyhoedd Cymru
- profiad personol o reoli newid
Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i ddod i gyfarfodydd o’r pwyllgor a chymryd rhan ynddynt a chefnogi nodau, gwerthoedd ac amcanion y Cyngor.
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y gwaith.
I gael rhagor o fanylion am y rôl, ewch i: Newyddion, swyddi a chyfleoedd | Cyngor Celfyddydau Cymru
Dyddiad cau: 12:00 hanner dydd, ddydd Llun 21 Hydref 2024
Anfonwch eich CV a ffurflen gais (hyd at 1500 gair) a ffurflenni monitro cyfle cyfartal at hr@celf.cymru.
Mae’r dogfennau yma i'w gweld yn y pecyn recriwtio ar waelod yr hysbyseb ar ein gwefan.
Bydd cyfweliadau i ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos o’r 4ydd o Dachwedd yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r Cyngor yn gyflogwr cynhwysol. Dymunwn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a grwpiau diwylliannol ac ethnig amrywiol. Croesawn geisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd gwahaniaeth yn y ffordd rydym yn trin ceisiadau Cymraeg a Saesneg. Ein nod yw cymryd camau i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu dewis am swyddi ar sail eu haddasrwydd yn unig. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel nodyn llais neu fideo Arwyddeg, cysylltwch â ni yn gyntaf.
Cynllun anabledd hyderus:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy’n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion hanfodol y rôl a nodir yn adran ‘Am bwy rydym yn chwilio?’ o fewn y ddogfen gwybodaeth recriwtio (gwaelod tudalen 1) yn y pecyn recriwtio.
Gwybodaeth bellach
I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Llywodraethu.
Cysylltwch ag ad@celf.cymru os oes unrhyw beth yma’n aneglur neu am unrhyw anghenion hygyrchedd.