Teitl Swydd: Prif Weithredwr Dros Dro, rhan amser (4 diwrnod yr wythnos)

Cyflog: £43,500 CALL (pro rata: £34,800) – Mae’r modd y mae’r tâl yn cael ei strwythuro yn agored i drafodaeth, gan gynnwys contract ymgynghori neu gyflogaeth, yn amodol ar fodloni gofynion CThEM.

Contract cyfnod penodol am 1 flwyddyn

Cwmni: Ymddiriedolaeth Theatr Dawns Cymru - Rubicon Dance

Lleoliad: Caerdydd

Amdanom Ni:

Mae Rubicon Dance yn dod â chyfleoedd ysbrydoledig, cynhwysol a difyr am ddawnsio, symud ac addysg dawns i bobl yng Nghaerdydd a de Cymru, yn enwedig y rheini sydd efallai yn wynebu rhwystrau o ran dawnsio. Mae’n gydweithredwr allweddol yn y sector, gan weithio tuag at Gymru amrywiol, fywiog a chynhwysol lle gall unrhyw un yn unrhyw le mwynhau llawenydd a buddion dawns, i’w llawn botensial a dyhead.

Yn 2023, gwnaethom amlinellu ein strategaeth 10 mlynedd a chynllun busnes 3 blynedd, a oedd yn amlinellu ei gynllun i ailadeiladu sylfeini sefydliadol cadarn, i gydweithio a chreu gydag eraill, ac i greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd ar gyfer ei gyfranogwyr, pobl a phartneriaid. Rydym yn chwilio am Brif Weithredwr dros dro dynamig a phrofiadol i ymuno â’n tîm gweithredol, hyrwyddo rhagoriaeth sefydliadol, a galluogi’r sefydliad i gwrdd â’i chwe gôl am y tair blynedd gyntaf:

  • I roi ar waith gweithrediad mewnol cryf a strwythur sy’n addas ar gyfer y dyfodol i’r sefydliad
  • I ddatblygu ac ymgorffori fframwaith er mwyn gwneud penderfyniadau sydd wedi’i lywio gan ddata a theori newid Sefydliadol
  • I gryfhau ein henw da gyda’n partneriaid a datblygu ein rhwydwaith, gan arwain at berthnasau cynhyrchu adnoddau cynaliadwy
  • I gynyddu llwybrau rhwng cymunedau, ein cynigion a chynigion ein partneriaid
  • I gynyddu cysylltedd a throsglwyddo gwybodaeth o fewn y sector dawns a thu hwnt
  • I gryfhau ein cynnig addysg o gyfnod allweddol 1 i lefel 3, gan wella enw da dawns fel sgil perthnasol o fewn y Cwricwlwm Cymreig

Mae Rubicon wedi wynebu sawl her, ond trwy waith caled y staff, bwrdd a gan gefnogaeth y mae’r sefydliad wedi’i derbyn gan gyllidwyr, partneriaid a’r gymuned, mae Rubicon nawr yn dechrau ar ei cham nesaf cyffroes a chyfnod o newid. Mae hon yn rôl hanfodol a fydd yn hyrwyddo’r cam nesaf hwn ac mae’n gyfle delfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am her, i dyfu’r sefydliad a defnyddio ei sgiliau arweinyddiaeth strategol ei hunan.

Yn gyffredinol, mae hon yn rôl allweddol o fewn y sefydliad a fydd yn sefyll ochr yn ochr â’r bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth presennol. Bydd ffurfio ffordd gydweithredol o weithio gyda’r Bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth yn hanfodol i’r swydd hon.

 

Trosolwg o’r Swydd:

Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am oruchwylio ac optimeiddio gweithrediad busnes Rubicon Dance o ddydd i ddydd. Bydd y Prif Weithredwr yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd ac aelodau’r Tîm Arweinyddiaeth, a fydd yn llywio gwaith cymdeithasol ac artistig y sefydliad. Gyda’i gilydd, byddant yn datblygu a gweithredu strategaeth mewn modd a fydd yn gwella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a pherfformiad cyffredinol trwy’r sefydliad i gyd. Bydd y Prif Weithredwr yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd ac â chyfrifoldeb uniongyrchol fel rheolwr llinell y Tîm Arweinyddiaeth.

Bydd y Prif Weithredwr yn chwarae rôl hanfodol o ran ysgogi twf cynaliadwy ar yr un pryd â chadw ffocws cadarn ar ddarparu gwasanaethau eithriadol i’n cyfranogwyr.

Cyfrifoldebau Allweddol:

Arweinyddiaeth Weithredol: Darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth fusnes i’r timau amrywiol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; y tîm arweinyddiaeth; cyllid; arweinwyr dawns, marchnata a blaen y tŷ. Meithrin diwylliant o gydweithio, arloesi, a gwelliant parhaus a fydd yn diogelu’r lle a thwf ar gyfer gweledigaeth artistig ar y cyd.

Cyflawni’r Strategaeth: Cydweithio gyda’r Bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth i gyfieithu goliau’r cwmni yn strategaethau gweithredol y gellir eu rhoi ar waith. Sicrhau cysondeb rhwng amcanion strategol a gweithgareddau bob dydd.

Gweledigaeth Greadigol / Artistig: I arwain a chreu cyfleoedd ynghylch gweledigaeth greadigol ar yr un pryd â darparu cyfeiriad artistig. Yn gallu i arwain sefydliad celfyddydau cymunedol mewn modd cynhwysol ac ysbrydoledig, gan ddod â’r gorau allan o’r dalent sy’n bodoli o fewn Rubicon.

Dosbarthu Adnoddau: Optimeiddio dosbarthu adnoddau er mwyn cyflawni effeithlonrwydd gweithredol ac ar yr un pryd rheoli costau yn effeithiol. Adnabod cyfleoedd i arbed costau ac am welliannau gweithredol.

Gwella Prosesau: Adnabod a rhoi ar waith camau i wella prosesau i symleiddio ffyrdd o weithio, gwella cynhyrchiant, a gwella ansawdd yn gyffredinol. Hyrwyddo arferion gorau ac atebion arloesol.

Metrigau Perfformiad: Diffinio a monitro dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) i olrhain perfformiad gweithredol. Cynhyrchu adroddiadau rheolaidd i’r Tîm Arweinyddiaeth, gan adnabod tueddiadau a gwneud argymhellion sydd wedi’u llywio gan ddata.

Cydweithrediad Traws-swyddogaethol: Meithrin cydweithio a chyfathrebu effeithiol rhwng y timau gwahanol i sicrhau cydgysylltu a chysoni goliau di-dor.

Rheoli Risg: Adnabod risgiau gweithredol posib a datblygu strategaethau i’w lliniaru. Sicrhau cydymffurfio â safonau diwydiant a rheoliadau perthnasol.

Datblygu Talent: Arwain, mentora a datblygu tîm gweithredu sy’n perfformio’n wych. Meithrin diwylliant o dwf, dysgu, ac ymgysylltiad gweithwyr.

Datblygu Busnes: Adeiladu rhwydweithiau cadarn o fewn y sector, gan adnabod cyfleoedd i gydweithio, a phartneriaethau posib lle y bo’n briodol.



Cymwysterau:

  • Mae Gradd Baglor neu unrhyw gymhwyster perthnasol yn fantais.
  • X3 blynedd o brofiad fel arweinydd yn y sector/diwydiant diwylliannol neu’r celfyddydau, â record brofedig o hyrwyddo rhagoriaeth weithredol a chyflwyno canlyniadau.
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl yn strategol cadarn, a’r gallu i ddatblygu a rhoi strategaethau gweithredol cymhleth ar waith.
  • Galluoedd arwain a datblygu timau eithriadol, gyda phrofiad o reoli a datblygu timau sy’n perfformio’n wych.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog, a’r gallu i gydweithio’n effeithiol ar draws bob lefel y sefydliad.
  • Wedi dangos profiad mewn optimeiddio prosesau, mesur perfformiad a rheoli newid.
  • Llythrennedd ariannol a chraffter busnes cadarn.

 

Iawndal:

Cyflog cystadleuol yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau. Cynhwysir hefyd pecyn buddion ychwanegol.

 

Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Gemma Barnett, Cadeirydd Dros Dro: gbarnett@trustee.rubicondance.co.uk.

Dyddiad cau: 26/02/2024