Rhan-amser, 4 diwrnod yr wythnos

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Brif Weithredwr Dros Dro, am gyfnod o chwe mis i naw mis, gan ddechrau ym mis Mawrth neu ym mis Ebrill 2024.

Rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio fel y gallwn gyrraedd pobl newydd a gwahanol – er mwyn cyflawni ein cenhadaeth i fynegi syniadau y tu hwnt i eiriau, gan archwilio’r hyn y mae byw yng Nghymru a’r byd yn awr yn ei olygu.

Rydym yn chwilio am sgiliau penodol mewn arwain pobl, cyllid, rheoli newid a datblygu brand gyda gwybodaeth am amryfal ffrydiau incwm. Yn ddelfrydol, byddwch hefyd yn meddu ar brofiad o recriwtio ar lefel uwch. Yn ôl pob tebyg, byddwch wedi gweithio yn sector y celfyddydau a/neu yn y trydydd sector ac efallai y bydd gennych brofiad o arwain timau dynamig.

Gellir cynnig y rôl hon fel contract cyflogaeth rhan-amser neu fel contract ymgynghori.

I gael rhagor o wybodaeth a phecyn ymgeisio mewn gwahanol ffurfiau, edrychwch ar ein gwefan https://ndcwales.co.uk/cy/prif-weithredwr-dros-dro

Mae’r pecyn yn esbonio sut i gysylltu â’r cadeirydd a’r Prif Weithredwr presennol i gael trafodaethau rhagarweiniol.

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd, 25 Ionawr 2024

 

Cofrestrir y cwmni fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419

Cofrestrir y cwmni fel Elusen yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227

Dyddiad cau: 25/01/2024