Mae Theatr Clwyd yn chwilio am un ymgeisydd i gymryd rhan yn y cynllun Prentis Creadigol sy’n cael ei weithredu ledled Cymru gan Ganolfan Mileniwm Cymru. Byddant yn hyfforddi ac yn datblygu sgiliau mewn cynhyrchu theatr dechnegol, fel sain, goleuo a rheoli llwyfan technegol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio yn Theatr Clwyd ond yn cael eu cyflogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal yn Theatr Clwyd.

Y Cynllun Prentis Creadigol

Nod y cynllun hwn yw rhoi cyfle i ymgeiswyr ddatblygu eu sgiliau presennol mewn byd real a’u paratoi ar gyfer cyflogaeth lawn amser yn niwydiant y theatr. Fe’i gweithredir ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, y coleg a fydd yn darparu ochr gymhwyster y brentisiaeth, sef Tystysgrif Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol: Sain, Goleuo a Llwyfan.

Mae’r cynllun yn weithredol ledled Cymru gyda tharged o 10 prentis. Bydd gan bob prentis leoliad penodol lle bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser. Bydd wythnos gyflwyno yng Nghaerdydd ac wythnosau eraill hefyd o bosib yng Nghaerdydd, ar gyfer hyfforddiant safonol ‘allan o’r swydd’ gan Gymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (a darparwyr eraill). Gellir darparu llety yng Nghaerdydd. Hefyd efallai y bydd cyfle i brentisiaid gyfnewid lleoliadau o dro i dro, i ehangu eu profiad.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun prentisiaeth ewch i Careers and jobs | Wales Millennium Centre (wmc.org.uk)

Dyddiad cau: 10/07/2024