Mae Llantarnam Grange yn chwilio am leisiau newydd ym myd celf a chrefft gyfoes i arddangos yn ein sioe flynyddol i raddedigion, Portal. Os ydych wedi graddio oddi ar unrhyw gwrs BA neu MA (Anrh) mewn celfyddyd gymhwysol neu weledol o brifysgol yn y DU yn 2025, yna rydych yn gymwys i ymgeisio.

 Beth yw Portal? 

Mae Portal yn gyfle i bymtheg o grefftwyr, artistiaid, dylunwyr, ffotograffwyr a gwneuthurwyr sy’n graddio gymryd rhan yn yr arddangosfa flynyddol o artistiaid graddedig yn Llantarnam Grange, Cwmbrân, De Cymru. Mae Portal hefyd yn sgwrs ehangach ynglŷn â'ch ymarfer a'ch uchelgeisiau, lle mae'r staff a’r gweithwyr llawrydd cynorthwyol yn gweithredu fel seinfwrdd a rhwydwaith – ac yn eich helpu i ddatblygu gyrfa iach yn y sector. 

Deadline: 9am Tuesday 15 July 2025

Beth sydd ar gynnig? 

Mae Portal yn gyfle i gymryd rhan mewn arddangosfa grŵp a gynhelir yn Oriel 1 yn Llantarnam Grange. Bydd yr artistiaid a ddewiswyd yn cael profiad o arddangos eu gwaith i'r cyhoedd, bod yn rhan o gyhoeddiad, a datblygu cymunedau artistig newydd.

Trwy gydweithio'n agos â'n tîm, byddwch yn cael cyfle dysgu a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol ac i ddeall sut mae gweithio yn y celfyddydau. Bydd rhai cyfleoedd mentora mewnol ar gael gyda'n Cyfarwyddwr, ein Swyddog Arddangosfeydd, yr Uwch Swyddog Ymgysylltu neu'r Swyddog Datblygu a Marchnata.

Bydd pob artist sy'n arddangos yn derbyn ffi o £100 am gymryd rhan. Bydd angen i chi drefnu cludiant i ddanfon y gwaith at yr oriel eich hunan neu gan gludwr. Byddwn yn talu'r costau dychwelyd, ond os gallwch gasglu eich gwaith mewn person, gallwn gynnig ffi o £50 i chi. 

Cymhwysedd 

• Mae'n rhaid i chi fod wedi graddio gyda BA (Anrh) neu MA yn y celfyddydau cymhwysol neu weledol o brifysgol yn y DU yn 2025. 

• Byddwn yn cynnig pum lle o leiaf i artistiaid mwyafrif bydeang, artistiaid anabl, ac/neu artistiaid sy'n siarad Cymraeg.

Dyddiad cau: 15/07/2025