Swydd-ddisgrifiad Rheolwr Rhaglen: Comisiynau’r DU
Teitl y swydd: Rheolwr Rhaglen: Comisiynau’r DU
Yn atebol i’r: Uwch-gynhyrchydd
Yn gyfrifol am: Swyddog, Gweinyddydd, cyflenwyr, llawryddion, ac artistiaid
Math o gontract: Parhaol
Cyflog: £33,063 (cyflog cychwynnol o fewn band cyflog sy’n codi i £44,084)
Ynghylch y Rôl
Mae hon yn rôl allweddol i arwain y gwaith o gyflenwi rhaglen Comisiynau Unlimited yn y DU. Byddwch yn gyfrifol am reoli prosesau comisiynu o’r dechrau i’r diwedd, gan weithio’n agos gydag artistiaid, partneriaid, a chydweithwyr i ddarparu cyfleoedd cynhwysol o safon uchel ar gyfer artistiaid anabl ledled y DU. Gyda ffocws ar gydweithredu, cynllunio strategol, a chyfathrebu clir, byddwch yn helpu i siapio rhaglen sy’n uchelgeisiol, teg, ac wedi’i chanoli ar yr artist.