Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydym yn chwilio am Bartner Busnes AD profiadol i ymuno gyda’n tîm a chefnogi Pennaeth Pobl a Thrawsnewid wrth yrru trawsnewidiad llwyddiannus o’n systemau a gweithrediadau AD a Chyflogres. Bydd y rôl yma’n gweithio’n agos gyda rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod prosesau newydd yn cael eu darparu a’u mabwysiadu’n esmwyth.
Byddwch yn arwain rhoi systemau AD a Chyflogres estynedig ar waith, goruchwylio darparu prosesau effeithlon sy’n cydymffurfio, a rheoli tîm gweithrediadau AD bach. Mae hon yn rôl hanfodol i rywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar newid ac sy’n angerddol dros wella systemau a gwasanaethau pobl.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
- Cyfrannu at brosiectau a mentrau AD mewn cydweithrediad gyda’r tîm Pobl a Diwylliant
- Darparu cymorth AD cyffredinol ar draws y sefydliad
- Cynorthwyo i roi systemau cyflogres a HRIS newydd ar waith
- Hyfforddi ac arwain rheolwyr ar Bolisïau, Gweithdrefnau ac Arfer Da Adnoddau Dynol
- Adolygu a chynnal polisïau a gweithdrefnau AD
- Cynghori ar recriwtio a chynghori penodi rheolwyr gydag anghenion adnoddau
- Rheoli achosion cysylltiadau gweithwyr cymhleth
- Cefnogi gweithrediadau AD o ddydd i ddydd yn ôl y galw
- Dadansoddi ac adrodd ar ddata pobl er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau
Beth sydd ei angen arnoch?
- Profiad AD cyffredinolwr gyda dealltwriaeth dda o brosesau craidd AD
- Y gallu amlwg i drafod, dwyn perswâd a dylanwadu ar randdeiliaid ar bob lefel
- Profiad gyda rhoi systemau HRIS a chyflogres ar waith (iTrent yn ddymunol)
- Hyder wrth drin perthnasoedd gweithwyr cymhleth a gweithio mewn amgylchedd lle mae undebau
- Wedi cymhwyso gyda CIPD neu brofiad cyfwerth
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu cadarn, gyda’r gallu ymdopi gyda bod dan bwysau a chwrdd â therfynau amser
- Agwedd ragweithiol, gydweithredol ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Gwybodaeth dda o GDPR a gweithrediadau cyflogres
Cyflog: £45,000 y Flwyddyn
Cytundeb Cyfnod Penodol hyd at fis Medi Chwefror 2026.
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Heledd Davies ar heledd.davies@wno.org.uk