Dydd Mercher, Chwefror 26ain
18:00-19:30
90-120 munud
Oedran: 18+ oed

Yn y sgwrs hon ag artist, bydd Morgan Dowdall yn archwilio pwysigrwydd gwallt, drwy ei dorri neu ei dyfu, fel ffordd o alluogi pobl draws i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae gwallt o bob math yn bwnc y mae pobl yn teimlo'n gryf yn ei gylch wrth orfodi a herio normau o ran rhywedd. Mae gwallt yn rhywbeth sy'n symbolaidd o ddisgwyliadau cymdeithasol a gwrthryfel personol. Mae diddordeb gen i yn y ffordd y mae gwallt yn cael effaith arnom, o'r gwallt rydym yn ei edmygu a'i barchu ar ein pennau, i'r gwallt angenfilaidd rhwng ein coesau neu ar waelod ein draeniau.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys ymarfer ymarferol a chreadigol sy'n gwahodd cyfranogwyr i archwilio eu perthynas eu hunain â gwallt. Does dim angen unrhyw brofiad artistig, yr unig beth sydd ei angen yw meddwl agored a pharodrwydd i arbrofi.

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn ymchwilio i'r berthynas rhwng gwallt, rhywedd a hunaniaeth. Drwy gyfuniad o naratif personol, archwiliad artistig, trafodaeth grŵp a gweithgaredd creadigol ymarferol, gwahoddir cyfranogwyr i ystyried sut gall gwallt fod yn arf pwerus ar gyfer hunanfynegiant ac yn rhywbeth o arwyddocâd diwylliannol a chymdeithasol.

Gwybodaeth am fynediad:
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyfieithu'n llawn i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Dyma grynodeb bras o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl: 

Cyflwyniad a thorri'r iâ (10 munud): Byddaf yn cyflwyno’r pwnc yn fras ac yn dechrau gyda gweithgaredd grŵp cyflym i ennyn diddordeb pawb. Mae croeso i chi ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio i wneud hyn, neu gallwch droi eich sain ymlaen - byddwn i wrth fy modd yn gweld eich wynebau i gyd ond nid yw'n orfodol!

Sgwrs ag artist (30 munud): Byddaf yn rhannu naratif personol mwy manwl am fy mherthynas â fy ngwallt a sut mae wedi dylanwadu ar fy hunanganfyddiad a fy mynegiant artistig. Byddaf hefyd yn cyflwyno detholiad o fy nghelfwaith sy'n archwilio themâu rhyw, hunaniaeth, a gwallt.

Parhau â'r sgwrs (20 munud): Byddaf yn cyflwyno artistiaid allweddol sydd wedi defnyddio gwallt yn eu gwaith, neu artistiaid cyfoes sy'n archwilio gwallt fel ffurf o brotest neu hunaniaeth ddiwylliannol.

Gweithgaredd Grŵp a Chwarae Hunangyfeiriedig (30-60 munud): Am weddill y sesiwn byddwn yn trafod ein syniadau am faniffesto rhyddid i wallt, sef set o egwyddorion neu gredoau sy'n herio disgwyliadau cymdeithas ynghylch gwallt ac yn hybu mwy o ryddid mynegiant. Bydd hyn ochr yn ochr ag archwiliad syml, hunangyfeiriedig o ddeunydd i gadw ein hymennydd yn effro!

Deunyddiau:

Rwy'n eich annog i gasglu rhai deunyddiau sydd ar gael yn hawdd y gallwch eu defnyddio fel gwallt. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys edau, llinyn, darnau o ffabrig, gwifren, ffibrau naturiol, glanhawyr pibelli, careiau, stribedi o bapur a gwallt go iawn!

Efallai y byddwch hefyd am ddefnyddio glud, papur, paent neu wrthrychau rydych wedi dod o hyd iddynt y gallwch eu defnyddio i'w gwneud yn flewog!

Gweithgaredd:

Fe’ch gwahoddir i arbrofi gyda’r deunyddiau hyn, gan dynnu llun, gludo, plethu, clymu, gwehyddu, neu greu unrhyw ffurfiau eraill sy’n dod i’r amlwg.

Dyma gyfle i chi roi cynnig ar chwarae hunangyfeiriedig ac archwilio, felly does dim  pwysau i greu unrhyw beth penodol!
 

Dyddiad cau: 26/02/2025